Luc 24
24
Y bedd gwag
1Gyda gwawr dydd cyntaf yr wythnos, fe aethon nhw at y bedd, yn dwyn y peraroglau a baratowyd. 2Fe welson fod y garreg wedi’i threiglo i ffwrdd oddi wrth y bedd, 3ond wedi mynd i mewn, ni allen nhw ganfod corff yr Arglwydd Iesu. 4A thra cheisien nhw ddatrys y dirgelwch hwn, dyna nhw’n gweld dau ŵr yn sefyll yn eu hymyl, mewn dillad eithriadol o ddisglair. 5Gostyngodd y gwragedd eu golygon mewn braw. Ond llefarodd y gwŷr wrthyn nhw, “Paham y chwiliwch am y byw ymysg y rhai marw? 6Nid yw ef yma. Fe gyfododd! 7Cofiwch beth a ddywedodd wrthych cyn iddo adael Galilea, mai rhaid oedd rhoddi Mab y Dyn yn nwylo dynion drwg, a’i groeshoelio, ac yr atgyfodai y trydydd dydd.”
8A dyna nhw’n cofio ei eiriau, 9a throi eu cefnau ar y bedd gan fynd ac adrodd hyn i gyd i’r un ar ddeg a’r lleill i gyd. 10Mair o Fagdala, a Joanna, a Mair mam Iago oedd y gwragedd, ac fe adroddson nhw a’u cyfeillesau yr hanes wrth yr apostolion. 11Ond iddyn nhw, nid oedd y cyfan yn ddim ond ffwlbri, ac ni allen nhw gredu. 12Ond fe gododd Pedr a rhedeg at y bedd, ac wedi plygu i lawr, gwelodd y llieiniau, ond dim byd arall. Aeth yn ôl yn rhyfeddu at yr hyn a ddigwyddodd.
Y ddau ar y ffordd i Emaus
13Yr un diwrnod, roedd dau ohonyn nhw ar eu ffordd i bentref o’r enw Emaus, ryw saith milltir o daith o Jerwsalem. 14Sgwrsio roedden nhw am yr holl bethau hyn a ddigwyddodd. 15A nhwythau wedi ymgolli yn eu trafodaeth, daeth yr Iesu ei hun atyn nhw, a chyd-gerdded â nhw, 16ond roedd rhywbeth yn eu hatal rhag ei adnabod. 17Gofynnodd iddyn nhw, “Am beth roeddech chi’n siarad â’ch gilydd wrth gerdded?”
Safodd y ddau yn wynepdrist, 18ac atebodd yr un a elwid Cleopas, “Tybed ai ti yw’r unig un sy’n ymweld â Jerwsalem na chlywodd beth a ddigwyddodd yno yn ystod y dyddiau olaf hyn?”
19“Pa bethau?” holodd yntau.
Ac medden nhw wrtho, “Y pethau am Iesu o Nasareth, proffwyd galluog ei eiriau a’i weithredoedd, gerbron Duw a’r bobl i gyd, 20fel y dedfrydodd ein prif offeiriaid a’n llywodraethwyr ef i farwolaeth, a’i groeshoelio. 21Ond roeddem ni’n gobeithio mai ef oedd i fod yn waredwr i Israel. A pheth arall, dyma’r trydydd dydd er pan ddigwyddodd y pethau hyn. 22Ac yn awr, mae rhyw wragedd o’n plith wedi ein syfrdanu ni, ar ôl iddyn nhw fod yn fore wrth y bedd. 23Ni chawson nhw ei gorff ef, ac fe ddaethon nhw yn ôl gan daeru ar eu llw iddyn nhw weld angylion, a’r rhai hynny yn dweud wrthyn nhw ei fod yn fyw. 24Aeth rhai o’n cyfeillion at y bedd, a chael popeth fel y tystiodd y gwragedd. Ond welson nhw mohono fe’i hun.”
25Dywedodd yntau wrthyn nhw, “O! rai di-ddeall, ac araf i gredu popeth a ddywedodd y proffwydi! 26Onid oedd raid i’r Meseia ddioddef y pethau hyn, a mynd i’w ogoniant?”
27A chan gychwyn gyda Moses a’r holl broffwydi, esboniodd iddyn nhw y rhannau yn y cwbl o’r Ysgrythurau a soniai amdano’i hunan.
28Erbyn hyn, roedden nhw yn agos i’r pentref lle roedden nhw yn mynd. Cymerodd yntau arno ei fod yn mynd ymhellach. 29Ond cymhellodd y ddau ef yn daer, gan ddweud, “Aros gyda ni. Mae’n hwyrhau, ac fe fydd y dydd drosodd ar hyn.”
Aeth yntau i mewn i aros gyda nhw. 30Ac wedi iddo eistedd gyda nhw wrth y bwrdd, cymerodd fara a gofyn bendith. Yna ei dorri a’i roddi iddyn nhw. 31Fe agorwyd eu llygaid, a dyna nhwythau’n ei adnabod ef. Ond diflannu oddi wrthyn nhw a wnaeth. 32Ac meddai’r naill wrth y llall, “Doedd dim rhyfedd fod ein calon yn llosgi ynom tra sgwrsiai â ni ar y ffordd, gan wneud yr Ysgrythurau mor glir inni.”
33Fe godson nhw y funud honno, a dychwelyd i Jerwsalem. Yno cael yr un ar ddeg a’r rhai eraill wedi casglu at ei gilydd.
34“Mae’n hollol wir,” medden nhw, “fe gyfododd yr Arglwydd, ac ymddangosodd i Simon!”
35Fe adroddson nhw am y pethau a ddigwyddodd ar y ffordd, ac fel yr adnabuwyd ef ganddyn nhw wrth iddo dorri’r bara.
Yr Iesu’n ymddangos i’w ddisgyblion
36Pan oedden nhw wrthi’n siarad felly, safodd yr Iesu ei hun yn eu plith, a dywedodd wrthyn nhw, “Tangnefedd ichi.”
37Nhwythau mewn braw a dychryn yn meddwl eu bod yn gweled ysbryd!
38“Paham rydych mor bryderus?” gofynnodd yr Iesu. “A phaham y parhewch i amau? 39Syllwch ar fy nwylo a’m traed. Ie, myfi yw! Teimlwch fi a gwelwch; nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn fel hyn.” 40Wedi dweud hyn dangosodd iddyn nhw ei ddwylo a’i draed.
41Oherwydd eu llawenydd, roedden nhw o hyd mewn syndod ac yn methu credu.
Felly gofynnodd yntau, “Oes yma ddim bwyd?”
42Rhoeson iddo ddarn o bysgodyn wedi’i rostio. 43Fe’i cymerodd gan ei fwyta o’u blaen. 44Yna meddai wrthyn nhw, “Dyma beth a olygwn pan ddywedais wrthych dro yn ôl fod popeth a ysgrifennwyd amdanaf yng Nghyfraith Moses a’r proffwydi a’r salmau i gael eu gwireddu.”
45Yna, fe’u cynorthwyodd i ddeall yr Ysgrythurau.
46“Felly yr ysgrifennwyd,” meddai, “a dyna paham roedd yn rhaid i’r Meseia ddioddef, a chodi oddi wrth y meirw y trydydd dydd; 47yna pregethir edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef i bob cenedl, gan ddechrau yn Jerwsalem.
Ordeinio’i ddisgyblion yn genhadon
48“Rydych yn dystion o’r pethau hyn. 49Ac fe anfonaf fi fy hun y rhodd a addawodd fy nhad. Arhoswch yn Jerwsalem, ac fe’ch gwisgir â nerth oddi uchod.”
Esgyniad Iesu
50Yna, arweiniodd nhw mor bell â Bethania, ac yno eu bendithio â’i ddwylo’n ddyrchafedig. 51A phan oedd wrthi, ymadawodd oddi wrthyn nhw ac yn ôl i’r nef. 52Roedden nhwythau yn ei addoli; ac yna fe aethon yn ôl i Jerwsalem mewn gorfoledd, 53a threulio eu holl amser yn y Deml yn moli Duw.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
Luc 24: FfN
เน้นข้อความ
แบ่งปัน
คัดลอก
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971