Ioan 13
13
1A chyn gŵyl y Pasg, gwyddai’r Iesu fod ei adeg ef wedi dyfod i ymadael â’r byd hwn at ei dad; yr oedd wedi caru ei bobl ei hun yn y byd, a charodd hwy hyd y diwedd. 2Ac ar swper, — a’r diafol eisoes wedi bwrw yng nghalon Iwdas fab Simon o Gerioth i’w fradychu ef, — 3gan ei fod yn gwybod bod y tad wedi rhoddi popeth yn ei ddwylo, a’i fod wedi dyfod oddiwrth Dduw ac yn myned at Dduw, 4y mae’n codi oddiwrth swper ac yn diosg ei ddillad, ac wedi cymryd tywel, yn ei ddodi am ei ganol. 5Yna y mae’n tywallt dwfr i’r cawg, a dechreuodd olchi traed y disgyblion a’u sychu â’r tywel a ddodasai am ei ganol. 6Felly y mae’n dyfod at Simon Pedr. Dywed yntau wrtho: “Arglwydd, tydi ’n golchi fy nhraed i?” 7Atebodd Iesu a dywedodd wrtho: “Yr hyn yr wyf i yn ei wneuthur, ni wyddost yn awr, ond cei wybod ar ôl hyn.” 8Medd Pedr wrtho: “Ni chei olchi fy nhraed i yn dragywydd.” Atebodd Iesu iddo: “Oni’th olchaf di, nid oes gennyt ran gyda mi.” 9Medd Simon Pedr wrtho: “Arglwydd, nid fy nhraed yn unig ond fy nwylo hefyd a’m pen.” 10Medd Iesu wrtho: “Yr hwn sydd wedi ymolchi drosto, nid oes angen golchi dim ond y traed arno, ond y mae’n lân i gyd: ac yr ydych chwi’n lân, ond nid pawb”; 11canys yr oedd ei fradychwr yn wybyddus iddo; am hyn y dywedodd: “Nid ydych bawb yn lân.” 12Yna ar ôl golchi eu traed a chymryd ei ddillad a myned at y bwrdd drachefn, dywedodd wrthynt: “A wyddoch chwi beth a wneuthum i chwi? 13Yr ydych chwi yn fy ngalw yn ‘Athro’ ac ‘Arglwydd,’ a da y dywedwch; dyna ydwyf. 14Felly os golchais i, yr Arglwydd a’r Athro, eich traed chwi, dylech chwithau hefyd olchi traed eich gilydd, 15canys esiampl a roddais i chwi er mwyn i chwithau hefyd wneuthur fel y gwneuthum i â chwi. 16Ar fy ngwir, meddaf i chwi, nid yw’r gwas yn fwy na’i feistr, ac nid yw’r negesydd yn fwy na’r hwn a’i hanfonodd. 17Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gwnewch hwy. 18Nid am bawb ohonoch yr wyf yn dywedyd, — mi wn i pwy a ddewisais, — ond er mwyn cyflawni’r ysgrythur: Yr hwn sy’n bwyta fy mara a gyfododd ei sawdl i’m herbyn. 19Yr wyf yn dywedyd yn awr cyn ei ddigwydd, er mwyn i chwi gredu, pan ddigwyddo, mai myfi yw. 20Ar fy ngwir, meddaf i chwi, y mae’r neb sy’n derbyn unrhyw un a anfonwyf yn fy nerbyn i, a’r hwn sy’n fy nerbyn i yn derbyn yr hwn a’m hanfonodd i.” 21Wedi dywedyd hyn, cynhyrfwyd yr Iesu yn ei ysbryd, a thystiodd a dywedodd: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, y mae un ohonoch am fy mradychu i.” 22A dyma’r disgyblion yn edrych ar ei gilydd, yn methu deall am bwy y soniai. 23Yr oedd wrth y bwrdd un o’i ddisgyblion â’i bwys ar fynwes yr Iesu, yr hwn yr oedd yr Iesu’n ei garu. 24Felly y mae Simon Pedr yn amneidio ar hwnnw ac yn dywedyd wrtho: “Dywed am bwy y mae’n sôn.” 25Ac y mae yntau, wedi rhyw bwyso’n ôl ar fron yr Iesu, yn dywedyd wrtho: “Arglwydd, pwy yw?” 26Y mae’r Iesu’n ateb: “Hwnnw ydyw y byddaf i yn mwydo’r tamaid ac yn ei roddi iddo.” Felly cymer y tamaid, ar ôl ei fwydo, a dyry ef i Iwdas fab Simon o Gerioth. 27Ac ar ôl y tamaid, yna aeth Satan i mewn iddo. Medd yr Iesu felly wrtho: “Y gwaith sydd gennyt, gwna ar frys.” 28Ond ni wyddai neb o’r rhai oedd wrth y bwrdd mo hyn, — i ba amcan y dywedodd ef wrtho, 29canys tybiai rhai, gan mai gan Iwdas yr oedd y blwch, fod Iesu yn dywedyd wrtho: “Pryn yr hyn y mae arnom ei eisiau at yr ŵyl,” neu am iddo roi rhywbeth i’r tlodion. 30Felly cymerth yntau’r tamaid, ac aeth allan yn y fan. Ac yr oedd hi’n nos.
31Felly, ar ôl iddo fyned allan, medd Iesu: “Yn awr y gogoneddwyd mab y dyn, ac y gogoneddwyd Duw ynddo ef. 32Os Duw a ogoneddwyd ynddo, Duw hefyd a’i gogonedda ef ynddo’i hun, ac fe’i gogonedda ar unwaith. 33Blant bach, ychydig eto y byddaf gyda chwi. Chwi a’m ceisiwch, ac fel y dywedais wrth yr Iddewon, ‘y lle yr wyf i yn myned, ni ellwch chwi ddyfod,’ yn awr yr wyf yn dywedyd wrthych chwithau. 34Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, i chwi garu eich gilydd; fel y cerais i chwi, i chwithau garu eich gilydd. 35Wrth hyn, gwybydd pawb mai disgyblion i mi ydych, os bydd gennych gariad at eich gilydd.” 36Medd Simon Pedr wrtho: “Arglwydd, i ba le yr wyt ti’n myned?” Atebodd Iesu: “Y lle yr wyf i’n myned ni elli di fy nilyn yn awr, ond dilyni fi maes o law.” 37Medd Pedr wrtho: “Paham na allaf i dy ddilyn di yn awr? Mi a roddaf fy mywyd trosot.” #13:37 Neu: a’m rhoddaf fy hunan trosot. 38Y mae Iesu’n ateb: “Tydi am roddi dy fywyd trosof? #13:38 Neu: am dy roddi dy hunan trosof. Ar fy ngwir, meddaf i ti, ni chân y ceiliog cyn iti fy ngwadu deirgwaith.”
ที่ได้เลือกล่าสุด:
Ioan 13: CUG
เน้นข้อความ
แบ่งปัน
คัดลอก
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945

: