Ioan 8
8
1Ond aeth Iesu i fynydd yr Olewydd, 2ac yn fore aeth drachefn i’r deml, ac yr oedd yr holl bobl yn dyfod ato, ac eisteddodd yntau a dechreu eu dysgu. 3A daw’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid â gwraig ato wedi ei dal mewn godineb, ac wedi ei gosod yn y canol, 4meddent hwy wrtho: “Athro, y mae’r wraig hon wedi ei dal yn y weithred yn godinebu. 5Yn awr, yn y gyfraith, gorchmynnodd Moesen inni labyddio merched o’r fath; beth a ddywedi di felly?” 6Dywedyd hyn yr oeddynt i’w brofi er mwyn cael lle i’w gyhuddo. Ond plygodd yr Iesu i lawr a dechreuodd ysgrifennu ar y ddaear â’i fys. 7Ond wrth eu bod yn dal i’w holi, ymunionodd a dywedodd wrthynt: “Y dibechod ohonoch, tafled hwnnw yn gyntaf garreg ati.” 8A phlygodd i lawr wedyn ac ysgrifennu ar y ddaear. 9Dyma hwythau wedi ei glywed [ac yn euog yn eu cydwybod] #8:9 Mewn rhai llawysgrifau. yn myned allan y naill ar ôl y llall, gan ddechreu gyda’r rhai hynaf, #8:9 Mewn rhai llawysgrifau ychwanegir: hyd yr olaf. a gadawyd yr Iesu ei hunan, a’r wraig yn sefyll yn y canol. 10Ac ymunionodd yr Iesu, a heb weled neb ond y wraig, dywedodd wrthi: “Wreigdda, ym mha le y maent hwy, dy gyhuddwyr? Oni chondemniodd neb di?” 11Medd hithau: “Neb, Syr.” Medd yr Iesu wrthi: “Nid wyf innau chwaith yn dy gondemnio. Dos, ac o hyn allan paid â phechu.”] #8:11 Ni cheir y darn o 753 hyd 811 ond mewn llawysgrifau diweddar.
12Felly siaradodd yr Iesu wrthynt drachefn a dywedyd: “Myfi yw goleuni’r byd. Ni rodia neb sy’n fy nghanlyn i, yn y tywyllwch, ond bydd ganddo oleuni’r bywyd.” 13Medd y Phariseaid wrtho: “Yr wyt ti’n tystio amdanat dy hun; nid yw dy dystiolaeth di yn wir.” 14Atebodd Iesu a dywedodd wrthynt: “Hyd yn oed os wyf i’n tystio amdanaf fy hun, gwir yw fy nhystiolaeth i, am fy mod yn gwybod o ba le y deuthum ac i ba le yr wyf yn myned, ond ni wyddoch chwi o ba le yr wyf yn dyfod nac i ba le yr wyf yn myned. 15Yr ydych chwi’n barnu yn ôl y cnawd, nid wyf i ’n barnu neb. 16A hyd yn oed os wyf yn barnu, y mae fy marn i’n gywir, oherwydd nid fy hunan yr ydwyf, ond myfi a’r hwn a’m hanfonodd. 17Ac yn eich cyfraith chwi y mae wedi ei ysgrifennu bod tystiolaeth dau ddyn yn wir. 18Myfi sydd yn tystio amdanaf fy hun, a thystia’r hwn a’m hanfonodd i, y tad, amdanaf.” 19Meddent hwy felly wrtho: “Ym mha le y mae dy dad?” Atebodd Iesu: “Nid ydych yn fy adnabod i na’m tad. Pe baech yn fy adnabod i, byddech yn adnabod fy nhad hefyd.” 20Y geiriau hyn a ddywedodd yn y trysordy wrth ddysgu yn y deml. Ond ni ddaliodd neb ef am na ddaethai ei adeg ef eto.
21Dywedodd wrthynt wedyn: “Yr wyf i’n myned, a byddwch yn chwilio amdanaf, a byddwch feirw yn eich pechod. Lle yr wyf i yn myned, ni ellwch chwi ddyfod.” 22Medd yr Iddewon felly: “Tybed ei fod am ei ladd ei hun pan ddywed, ‘Lle yr wyf i yn myned, ni ellwch chwi ddyfod’?” 23Ac medd ef wrthynt: “Yr ydych chwi o’r pethau isod, a minnau o’r pethau uchod; yr ydych chwi o’r byd hwn, a minnau nid wyf o’r byd hwn. 24Dywedais am hynny wrthych y byddwch feirw yn eich pechodau; canys oni chredwch fy mod i, byddwch feirw yn eich pechodau.” 25Meddent hwy felly wrtho: “Pwy wyt ti?” Medd yr Iesu wrthynt: “Paham yr wyf i hyd yn oed yn siarad â chwi o gwbl? 26Y mae gennyf lawer i’w ddywedyd amdanoch ac i’w farnu. Ond y mae’r hwn a’m hanfonodd i yn wir; a minnau, yr hyn a glywais ganddo ef, hynny yr wyf yn ei ddywedyd wrth y byd.” 27Ni wyddent mai am y tad y soniai ef wrthynt. 28Medd yr Iesu felly: “Pan ddyrchefwch fab y dyn, yna y gwybyddwch fy mod i, ac nad wyf yn gwneuthur dim ohonof fy hun, ond fel y dysgodd y tad fi, dyna’r hyn yr wyf yn ei ddywedyd. 29Ac y mae’r hwn a’m hanfonodd i gyda mi. Ni adawodd fi wrthyf fy hunan, canys yr wyf i yn gwneuthur bob amser y pethau sydd wrth ei fodd ef.”
30Ag yntau’n dywedyd hyn, credodd llawer ynddo. 31Meddai’r Iesu felly wrth yr Iddewon oedd wedi credu ynddo: “Os arhoswch chwi yn fy ngair i, yr ydych yn wir ddisgyblion i mi, 32a chewch adnabod y gwir, a’r gwir a’ch rhyddha chwi.” 33Atebasant iddo: “Had Abraham ydym ni, ac ni buom gaethion i neb erioed. Sut yr wyt ti’n dywedyd, ‘Chwi ddeuwch yn rhyddion’?” 34Atebodd yr Iesu iddynt: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, y mae pob un sy’n gwneuthur pechod yn gaethwas i bechod. 35Nid yw’r caethwas yn aros yn y tŷ am byth; y mab sy’n aros am byth. 36Felly, os y mab a’ch rhyddha chwi, byddwch ryddion mewn gwirionedd. 37Gwn mai had Abraham ydych, ond yr ydych yn ceisio fy lladd, am nad yw fy ngair i yn cerdded ynoch. 38Y pethau a welais i gyda’r tad yr wyf yn eu dywedyd, ac felly gwnewch chwithau yr hyn a glywsoch gan y tad.” 39Atebasant a dywedasant wrtho: “Abraham yw ein tad ni.” Medd yr Iesu wrthynt:. “Os plant Abraham ydych, gwnewch weithredoedd Abraham; 40ond yn awr yr ydych yn ceisio fy lladd, dyn sydd wedi dywedyd y gwir wrthych a glywais gan Dduw. Dyma beth na wnaeth Abraham. 41Yr ydych chwi yn gwneuthur gweithredoedd eich tad chwi.” Meddent hwy wrtho: “Nid o buteindra y ganwyd ni; un tad sydd gennym, Duw.” 42Medd yr Iesu wrthynt: “Pe bai Duw yn dad i chwi, fe’m carech i, oherwydd o Dduw y deuthum allan, a dyma fi; ac nid ohonof fy hunan y deuthum, ond efô a’m hanfonodd. 43Paham nad ydych yn adnabod fy lleferydd i? Am na ellwch glywed fy ngair i. 44O’ch tad, y diafol, yr ydych chwi ac yn dewis gwneuthur nwydau eich tad. Llofrudd oedd hwnnw o’r dechreu ac ni saif yn y gwir am nad oes wir ynddo. Pan ddywed gelwydd, siarad o’i natur ei hun y mae, oherwydd celwyddog ydyw ef, a thad iddo. #8:44 H.y., y mae’n debyg, tad y celwydd. 45Ond â minnau’n dywedyd y gwir, ni chredwch fi. 46Pwy ohonoch a’m prawf i’n euog o bechod? Os y gwir yr ydwyf yn ei ddywedyd, paham na chredwch chwi fi? 47Y mae’r hwn sy’n hanfod o Dduw yn clywed geiriau Duw. Dyma paham nad ydych chwi yn clywed, am nad o Dduw yr ydych.” 48Atebodd yr Iddewon a dywedasant wrtho: “Onid da y dywedwn ni mai Samariad wyt ti a bod gennyt gythraul?” 49Atebodd Iesu: “Nid oes gennyf gythraul, ond yr wyf yn parchu fy nhad, a chwithau ’n fy amharchu i. 50Ac nid wyf yn ceisio fy ngogoniant fy hun; y mae un sydd yn ceisio ac yn barnu. 51Ar fy ngwir, meddaf i chwi, os ceidw neb fy ngair i, ni wêl farwolaeth byth yn dragywydd.” 52Meddai’r Iddewon wrtho: “Yn awr gwyddom fod gennyt gythraul. Bu farw Abraham a’r proffwydi hefyd, ac yr wyt ti’n dywedyd, ‘os ceidw neb fy ngair i, ni phrofa farwolaeth byth yn dragywydd.’ 53A wyt ti’n fwy na’n tad Abraham, a fu farw? A’r proffwydi hefyd, buont hwythau feirw. Pwy yr wyt ti yn dy wneuthur dy hun?” 54Atebodd Iesu: “Os wyf i yn fy ngogoneddu fy hunan, nid yw fy ngogoniant i ddim. Fy nhad i, hwnnw sydd yn fy ngogoneddu, yr hwn y dywedwch chwi amdano, ‘Ein Duw ydyw’; 55ac eto yr ydych heb ei adnabod, ond adwaen i ef, ac os dywedaf nas adwaen ef, byddaf fel chwi yn gelwyddog. Ond adwaen i ef, ac yr wyf yn cadw ei air. 56Gorfoleddodd Abraham eich tad chwi y gwelai fy nydd i; a gwelodd a llawenhaodd.” 57Meddai’r Iddewon felly wrtho: “Nid wyt ti eto’n hanner can mlwydd, ac a welaist ti Abraham?” 58Meddai’r Iesu wrthynt: “Ar fy ngwir, meddaf i chwi, yr wyf i cyn bod Abraham.” 59Felly cyfodasant gerrig i’w taflu ato, ond aeth Iesu o’r golwg, ac allan o’r deml.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
Ioan 8: CUG
เน้นข้อความ
แบ่งปัน
คัดลอก
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945

: