Luc 15
15
1Yr oedd y trethwyr a’r pechaduriaid i’ gyd yn dynesu ato i wrando arno. 2A grwgnachai’r Phariseaid a’r ysgrifenyddion, gan ddywedyd, “Y mae hwn yn croesawu pechaduriaid, ac yn cyd-fwyta â hwynt.” 3A dywedodd wrthynt y ddameg hon, 4“Pa ddyn ohonoch a chanddo gant o ddefaid, ac wedi colli un ohonynt, nid yw yn gadael y cant namyn un yn yr anialwch, ac yn mynd ar ôl yr hon a gollwyd nes ei chael hi? 5Ac wedi ei chael fe’i gesyd hi ar ei ysgwyddau yn llawen, 6ac wedi dyfod adref geilw ei ffrindiau a’i gymdogion ynghyd, gan ddywedyd wrthynt, ‘Cyd-lawenhewch â mi, canys cefais fy nafad a oedd ar goll.’ 7Dywedaf i chwi y bydd llawenydd felly yn y nef am un pechadur a edifarhao, yn fwy nag am gant namyn un o rai cyfiawn, nad oes arnynt angen edifeirwch. 8Neu pa wraig, a chanddi ddeg swllt, os cyll un swllt, nid yw yn golau cannwyll, ac yn ysgubo’r tŷ, ac yn chwilio’n ofalus, nes ei gael? 9Ac wedi ei gael hi eilw ei ffrindiau a’i chymdogesau ynghyd, gan ddywedyd, ‘Cyd-lawenhewch â mi, canys cefais y swllt a gollais.’ 10Felly, meddaf i chwi, y mae llawenydd yng ngŵydd angylion Duw am un pechadur a edifarhao.” 11A dywedodd, “Yr oedd gan ryw ddyn ddau fab. 12A dywedodd yr ieuangaf ohonynt wrth ei dad, ‘’Nhad, dyro i mi fy nghyfran o’r eiddo.’ A rhannodd yntau rhyngddynt ei dda. 13Ac ar ôl ychydig ddyddiau gwerthodd y mab ieuangaf y cwbl ac ymfudodd i wlad bell, ac yno gwasgarodd ei eiddo, gan fyw’n afradlon. 14Ac wedi iddo dreulio’r cwbl, bu newyn tost trwy’r wlad honno, a dechreuodd ddioddef eisiau. 15Ac aeth a glynodd wrth un o ddinaswyr y wlad honno, ac anfonodd yntau ef i’w feysydd i borthi moch. 16A chwenychai lenwi ei fol â’r cibau a fwytâi’r moch, ac ni roddai neb iddo. 17A phan ddaeth ato’i hun, fe ddywedodd, ‘Pa sawl gwas cyflog i’m tad sydd ganddynt eu gwala o fara, a minnau’n marw yma o newyn! 18Codaf ac af at fy nhad, a dywedaf wrtho, ’Nhad, pechais yn erbyn y nef ac o’th flaen dithau; 19nid wyf deilwng mwyach i’m galw yn fab i ti; gwna fi fel un o’th weision cyflog.’ 20A chododd ac aeth at ei dad. A phan oedd eto ymhell oddi wrtho, fe’i gwelodd ei dad ef, a thosturiodd, a chan redeg syrthiodd ar ei wddf a chusanodd ef. 21A dywedodd y mab wrtho, ‘’Nhad, pechais yn erbyn y nef ac o’th flaen dithau; nid wyf deilwng mwyach i’m galw yn fab i ti.’ 22A dywedodd y tad wrth ei weision, ‘Brysiwch i ddwyn allan y wisg orau, a gwisgwch amdano, a rhowch fodrwy ar ei law ac esgidiau am ei draed, 23a dygwch y llo pasgedig, lleddwch ef, a bwytawn a byddwn lawen; 24canys fy mab hwn oedd farw a daeth yn fyw drachefn, yr oedd ar goll ac fe’i cafwyd.’ A dechreuasant fod yn llawen. 25Yr oedd ei fab hynaf yn y maes; a phan ddaeth a nesáu at y tŷ, clywodd ganu a dawnsio, 26ac wedi galw un o’r gweision ato holodd beth oedd hyn. 27Dywedodd yntau wrtho, ‘Dy frawd a ddaeth, a lladdodd dy dad y llo pasgedig, am iddo’i gael yn ôl yn iach.’ 28Digiodd yntau, ac ni fynnai fynd i mewn. Ac aeth ei dad allan i ymbil ag ef. 29Atebodd yntau i’w dad, ‘Edrych gynifer o flynyddoedd yr wyf yn dy wasanaethu, ac ni throseddais i erioed orchymyn o’r eiddot, ac eto i mi ni roddaist erioed fyn, i fod yn llawen gyda’m cyfeillion; 30Eithr pan ddaeth dy fab hwn, yr un a ddifaodd dy dda gyda phuteiniaid, lleddaist iddo ef y llo pasgedig.’ 31Dywedodd yntau wrtho, Fy mhlentyn, yr wyt ti gyda mi yn wastad, a thi biau’r cwbl sydd gennyf; 32iawn oedd bod yn llon a llawen, canys dy frawd hwn oedd farw, a daeth yn fyw; bu ar goll, ac fe’i cafwyd’.”
ที่ได้เลือกล่าสุด:
Luc 15: CUG
เน้นข้อความ
แบ่งปัน
คัดลอก
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945

: