Lyfr y Psalmau 10

10
1Paham, fy Nuw, y sefi draw
Yn amser cyfyng ofn a braw,
2A’r annuwiolion balch mewn gwawd
Yn erlid a dirmygu ’r tlawd?
O Arglwydd, dalier hwy bob un
Yn eu bwriadau drwg eu hun;
A’r ddirgel rwyd a’r fagl a wnaed
Mewn trais a thwyll, a ddalio ’u traed.
3Am fryd eu calon ddrwg a’u bai
Ymffrostio mae ’r annuwiol rai;
A’r cybydd, sy gan Dduw mor wael,
Bendithiant, gan ei alw ’n hael.
4Yr anwir ddyn ni cheisia Dduw,
Rhag balched a gwarsythed yw,
Ac nid yw Arglwydd nef y nef
Yn un o’i holl feddyliau ef.
5Ei ffyrdd sy fyth yn flin a gau,
Balch ac ystyfnig myn barhâu;
O’i olwg pell yw ’th farn a’th ras;
Mae ’n chwythu ’n erbyn pawb o’i gas.
6A iaith ei galon uchel syth
Yw, “Ni ’m symmudir ymaith byth;
Mewn drygfyd blin ni byddaf chwaith,
Tra paro ’r byd a’i oesoedd maith.”
7Ei safn o felldith sydd yn llawn,
Dichell a thwyll yn gwyro ’r iawn;
Ac fyth o dan ei dafod gau
Mae cam a thrais yn cadw ’u ffau.
8Eistedd i gynllwyn nos a dydd
Ynghongl a phen pob heol bydd;
Ac yn y gilfach d’wylla’ gaed
Tywallta ’n greulon wirion waed.
Ei lygaid ar y tlawd ar gêl
A dremiant, nes i’w rwyd y dêl;
9Fe gynllwyn mewn dirgelwch gau,
Fel llew newynllyd yn ei ffau.
Fe gynllwyn fyth i ddala ’r tlawd,
Fel rheibus lew i ddryllio ’i gnawd;
A’r adyn tlawd a ddeil yn dynn,
I’w rwydau bradol pan ei tyn.
10Ymgrymma ’n ostynedig iawn,
Tybiech ei fod o ras yn llawn;
Fel hyn yn llu y cwympa i lawr
Drueiniaid gan ei gedyrn mawr.
11Dywedodd ynddo ’i hun mewn gwawd,
“Anghofiodd Duw weddiau ’r tlawd;
Cuddiodd ei wyneb rhagddynt hwy,
Ni’s gwel Efe mo ’u cystudd mwy.”
YR AIL RAN
12O cyfod, Arglwydd, na saf draw,
Dyrchafa ’th law alluog;
Nac esgeulusa, Arglwydd hael,
Mo lef y gwael anghenog.
13Pa’m y dirmygir Di, fy Nuw
Gan ddyn sy ’n byw ’n annuwiol?
Ei feddwl yw am danat Ti,
Nad ymofyni ’n fanol.
14Ond gwelaist Ti ei wawdus wedd;
Anwiredd a ganfyddi;
A’r twyll a’r cam a wnaeth pob un
Tydi dy Hun a’i teli.
Eu cwyn a edy ’r gwael a’r gwan,
Y tlawd a’r truan, arnad;
Tydi sy gynnorthwywr gwir,
A nodded i’r amddifad.
15Distrywia ’r anwir yn dy wg,
Tor fraich y drwg a’r aflan;
Cais ei ddrygioni, Arglwydd Ior,
Nes darfod chwilio ’r cyfan.
16Tydi, O Arglwydd Dduw di‐lyth
Wyt Frenhin byth heb ddiwedd;
Difethwyd euog bobl y tir
O’th randir am eu camwedd.
17Dy glust drugarog Di, fy Nuw,
Y tlawd a glyw, pan waeddo;
Ti sy ’n par’tôi ei galon ef,
Ac ar ei lef yn gwrando.
18Tydi sy ’n barnu ’r gwael a’r gwan
Rhag treiswŷr, pan weddïo;
Ac yna nid oes marwol ddyn
A baro ddychryn iddo.

ที่ได้เลือกล่าสุด:

Lyfr y Psalmau 10: SC1850

เน้นข้อความ

แบ่งปัน

คัดลอก

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้