Salmau 7:17

Salmau 7:17 SC1875

Clodforaf di, O Arglwydd Nêr! Am dy gyfiawnder canaf; Canmolaf d’ enw tra f’wyf byw, O Arglwydd Dduw goruchaf! NODIADAU. Nid ychydig yw nifer y tybiau gwahanol a fu ynghylch pwy oedd y Cus, mab Iemini, y cyfeirir ato yn nheitl y salm hon, gan nad oes un crybwylliad am ŵr o’r enw hwnw yn hanes Dafydd. Anfuddiol fyddai coffau y gwahanol dybiau hyny. Yr hon a ymddengys yn fwyaf tebygol yw, mai Saul ei hun ydoedd y “mab Iemini” hwn, ond na ddewisai Dafydd ei enwi yn eglur. Rhoddai awgrymiad yn unig pwy oedd y person a olygid ganddo — mai Saul mab Cis ydoedd, gan droi y Cis yn Cus, mewn ffordd o ochelgarwch. Cyfeiria, fe ddichon, at y geiriau a lefarodd Saul yn ei erbyn wrth ei weision (1 Sam xxii. 7, 8), pan y cyhuddai ef o fradwriaeth yn erbyn ei goron a’i fywyd, er y darfuasai iddo ef ei ddyrchafu a’i anrhydeddu. Gwystla yntau ei enaid yn ddiofryd i ddinystr mewn gwadiad o’r cyhuddiad brwnt, ac appelia at Farnwr Mawr y byd fel tyst o’i ddiniweidrwydd, a rhydd ei achos yn hyderus yn ei law ef i wneyd âg ef gyfiawnder. Sicrhâ ei fod, nid yn unig yn ddieuog o dalu drwg am dda, fel y cyhuddai y mab Iemini hwnw ef; ond o’r tu arall, ei fod wedi talu da am ddrwg yn hytrach — a gwnaeth felly i’w elyn penaf, Saul, droion. Mor hyderus y gall yr hwn nad yw ei galon ei hun yn ei gondemnio nesau at Dduw, pan fyddo dynion yn ei gyhuddo a’i gondemnio ar gam. Cydwybod yn cyhuddo, a chalon yn condemnio, sydd yn gwanhau hyder yr enaid ger bron Duw mewn gweddi. Am gyfiawnder i’w achos yn unig y gweddïai Dafydd yn y salm hon, ar sail cyfiawnder ac uniondeb ei fater, fel un cwbl ddiniwed o’r hyn y cyhuddid ef gan ddynion. Am drugaredd yn unig y gweddïai yn y salm o’r blaen, fel un a gyhuddid gan ei gydwybod ei hun o’i fod yn euog fel troseddwr yn erbyn Duw. Y mae cyfiawnder Duw yn ngwaredigaeth y diniwed yn ogoneddus; ond y mae ei drugaredd yn ngwaredigaeth yr euog, yn llawer mwy gogoneddus. Clodfora y Salmydd yr Arglwydd fel Barnwr cyfiawn yn benaf yn y salm hon, ac ymhyfryda ynddo yn y cymmeriad hwnw; canys ar y wyneb hwnw i’r cymmeriad Dwyfol y mae efe yn edrych y waith hon. Y mae y gân yn rhagorol iawn drwyddi; ond y mae ei ganiadau clodforedd i ras a thrugaredd faddeuol ei Dduw yn rhagorach a melusach.

อ่าน Salmau 7