Hosea 11
11
PENNOD XI.
1Pan yn fachgen oedd Israel, caraswn ef;
Ac o’r Aipht y gelwais fy mab.
2Galwasant#11:2 Sef y prophwydi a ddanfonai Duw. arnynt yr un modd,
Aethant ymaith oddiwrthynt;
I Baalim yr aberthant,
Ac i ddelwau yr arogldarthant.
3Ond myfi — dysgais Ephraim i gerdded,
Gan eu cymeryd erbyn eu breichiau:#11:3 Megys y gwneir i fabanod, pan ddechreuant gerdded.
Eto ni chydnabyddant ddarfod i mi eu hadferu:#11:3 Sef, i nerth a chryfder.
4A rhwymynau dyn y tynais hwynt,
A llinynau cariad;#11:4 Cyfeirir at wendid plant: defnyddir llinynau i’w tywys, fel na byddai iddynt syrthio. “Rhwymynau dyn,” neu ddynol, a “llinynau cariad,” a arwyddant foddion mwyn, tirion, a serchlawn.
A buais iddynt fel y rhai
A godant yr iau ar eu bochgernau;#11:4 Er rhoi esmwythder.
Ac estynais iddo fwyd.
5Ni ddychwel i wlad yr Aipht;#11:5 Nid yr Aipht a fyddai gwlad y gaethglud. Gwel pen. 8:13.
Ond yr Assyriad — efe fydd ei frenin;
O herwydd gwrthodasant ddychwelyd.;
6Ac erys y cleddyf ar ei ddinasoedd,
A difroda ei ddiffynion,#11:6 Neu, amddiffynion, sef ei dywysogion. Gelwir hwynt yn daranau yn pen. 4:18. Eu “cynghorion” oedd ceisio cymhorth estroniaid.
Ïe, difäaf hwynt, o herwydd eu cynghorion.
7A’m pobl — penderfynant wrthgilio oddiwrthyf;
Ond am y iau galwant arno ynghyd;#11:7 Y “iau” oedd y caethiwed a fygythid: ond symudid hon. Gyda golwg ar hyn, y dywed fel y canlyn, “P’odd y rhoddaf?” &c.
Ni symudir hi ymaith.
8P’odd y rhoddaf di i fyny, Ephraim —
Y bwriaf di ymaith, Israel?
P’odd y gallaf dy wneyd fel Adma —
Y gallaf dy osod fel Seboim?
Dadymchwelir ynof fy nghalon,#11:8 Neu, “Tröa yn fy erbyn fy nghalon;” hyny yw, pan benderfynodd gaethgludo Israel.
Ynghyd y dirwynir fy edifariadau.#11:8 Neu, “Crynöir ynghyd fy edifariadau.” Yr oedd holl achosion edifeirwch yn dyfod ynghyd i’w feddwl. Llefarir yn ddïau mewn modd dynol; ond ymadroddion hynod ydynt.
9Ni chyfiawnaf angerdd fy nigder,
Ni ddychwelaf i ddinystrio Ephraim;#11:9 Sef, wedi ei gaethgludo.
Canys Duw ydwyf, ac nid dyn,
Yn dy ganol di, yn sanctaidd;#11:9 Ac felly, yn cadw ei gyfammod.
Ac ni ddeuaf i mewn i’r ddinas.#11:9 Pan orchfygo un ddinas, ä i mewn a dinystria hi; ond pan wneir ammodau, ni âd i’w fyddin fyned i mewn i’w anrheithio hi. At hyn y cyfeirir yma. Dyma’r ystyr a rydd yr hen gyfieithiadau oll.
10Ar ol yr Arglwydd yr änt;
Fel llew y rhua:
O herwydd efe — rhuo a wna,
A dychryna meibion o’r gorllewin, —
11Dychrynant, fel aderyn, yn yr Aipht,
Ac fel colomen, yn nhir Assyria,
A pharaf iddynt orphwys yn eu tai, medd yr Arglwydd.#11:11 Y “rhuo” hwn oedd er dychryn i elynion Ephraim, fel y byddai iddo ddychwelyd yn ddirwystr i’w wlad ei hun.
12Amgylchai Ephraim fi â chelwydd,
Ac â dichell, dŷ Israel;
Tra yr oedd Iowda eto yn llywodraethu gyda Duw,
Ac yn nghyd â’r saint yn ffyddlawn.#11:12 Perthyn yr adnod hon i’r bennod sy’n canlyn. “Llywodraethu gyda Duw,” yw llywodraethu yn ol ei ewyllys. Parhau yn “ffyddlawn” fel y “saint,” neu yr hen dduwiolion. Bu Iowda gryn amser cyn dilyn llwybrau y deg llwyth.
ที่ได้เลือกล่าสุด:
Hosea 11: CJO
เน้นข้อความ
แบ่งปัน
คัดลอก
ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้
Proffwydi ac Epistolau gan John Owen. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.

: