Matthew Lefi 10:26-33

Matthew Lefi 10:26-33 CJW

Am hyny, nac ofnwch hwynt, canys nid oes dim cuddiedig, a’r nas dadguddir; dim dirgel, a’r nas gwybyddir. Yr hyn á ddywedwyf wrthych yn y tywyllwch, dadgenwch yn y goleuni; a’r hyn sydd yn cael ei sisial yn eich clust, cyhoeddwch oddar benau y tai. A nac ofnwch y rhai à laddant y corff, ond nid allant ladd yr enaid; yn hytrach ofnwch yr hwn à ddichon ddystrywio enaid a chorff yn uffern. Oni werthir dau aderyn y tô èr ceiniog? Eto nid yw yr un o honynt yn syrthio i ’r llawr heb eich Tad chwi. Na, y mae hyd yn nod holl wallt eich pen yn gyfrifedig. Nac ofnwch, gàn hyny; yr ydych chwi yn werthfawrocach na llawer o adar y tô. Pwybynag, gàn hyny, á’m haddefo i gèr gwydd dynion, hwnw hefyd á addefaf finnau gèr gwydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. Ond pwybynag á’m gwado i gèr gwydd dynion, hwnw á wadaf finnau hefyd gèr gwydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.

อ่าน Matthew Lefi 10