Matthew Lefi 3:13-17

Matthew Lefi 3:13-17 CJW

Yna y daeth Iesu o Alilëa i’r Iorddonen, iddei drochi gàn Iöan. Ond Iöan á ymesgusodai, gàn ddywedyd, Myfi sydd eisieu fy nhrochi genyt ti; ac yr wyt ti yn dyfod ataf fi! Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrtho, Goddef hyn yn bresennol; canys fel hyn y dylem ni gadarnâu pob sefydliad. Yna Iöan á ymfoddlonodd. Iesu gwedi ei drochi, nid cynt y codai o’r dwfr, nag yr agorwyd y nefoedd iddo; ac Ysbryd Duw á ymddangosai yn disgyn fel colomen, ac yn dyfod arno ef; tra yr oedd llais o’r nefoedd yn cyhoeddi, Hwn yw fy mab, yr anwylyd, yn yr hwn yr ymhyfrydwyf.

อ่าน Matthew Lefi 3