Matthew Lefi 7:1-5

Matthew Lefi 7:1-5 CJW

Na fernwch, fel na’ch barner; canys fel y bernwch, y bernir chwi; a’r mesur à roddwch, yr unrhyw á dderbyniwch. A phaham yr wyt yn edrych àr y brycheüyn yn llygad dy frawd, ond heb ystyried y ddellten yn dy lygad dy hun? Neu pa fodd y beiddi ddywedyd wrth dy frawd, gad i mi dỳnu y brycheüyn allan o’th lygad; ac wele! y mae genyt ddellten yn yr eiddot dy hun? Ragrithiwr, yn gyntaf tỳn y ddellten allan o’th lygad dy hun; yna y gweli yn eglur dỳnu y brycheüyn allan o lygad dy frawd.

อ่าน Matthew Lefi 7