Matthew Lefi 8:5-13

Matthew Lefi 8:5-13 CJW

Gwedi dyfod o hono i fewn i Gapernäum, canwriad á’i cyfarchai ef gyda’r deisyfiad hwn, Sỳr, mae fy ngwas yn gorwedd gartref yn glaf, yn cael ei flino yn dost gàn barlys. Iesu á atebodd, mi á âf ac á’i hiachâf ef. Y canwriad gàn ateb, á ddywedodd, Sỳr, nid ydwyf deilwng i ddyfod o honot dàn fy nghronglwyd; yn unig dywed y gair, a’m gwas á iachêir. Canys myfinnau, yr hwn wyf fy hunan dàn awdurdod, â chenyf filwyr danaf, á ddywedaf wrth un, Dos, ac efe á â; wrth arall, Dyred, ac efe á ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe á’i gwna. Iesu gwedi clywed hyn, á sỳnodd, ac á ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn, Yn wir, yr wyf yn dywedyd i chwi, hyd yn nod yn Isräel ni chefais gymaint ffydd. Ond yr wyf yn sicrâu i chwi, y daw llawer o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, ac á osodir wrth y bwrdd gydag Abraham, Isaac, a Iacob, yn nheyrnas y nefoedd, tra y teflir plant y deyrnas i’r tywyllwch eithaf, lle y bydd wylofain a rhincian dannedd. Yna y dywedodd Iesu wrth y canwriad, Dos adref; bydded i ti yn ol dy ffydd. Ei was á iachawyd y cythrym hwnw.

อ่าน Matthew Lefi 8