Hosea 13

13
PEN. XIII.—
1Pan lefarai Ephraim;#yn ol gair Ephraim derbyniodd unionderau yn. LXX. — ddychryn — ac yr oedd yn fawr. Syr.
Codai efe ddychryn yn Israel:
Ond efe a bechodd gyda Baal#ac efe a’u gosodes i’r Faales ac a. LXX. ac a fu farw.
2Ac yn awr ychwanegant bechu,
Ac o’u harian y gwnant iddynt ddelw dawdd yn ol eu deall,#yn ol delw eilunod. LXX., Vulg.
Delwau yn waith crefftwyr yn gwbl:
Wrthynt hwy y maent yn dywedyd;
Aberthwyr#aberthwch ddynion canys lloi a ballasant. LXX. aberthau o ddynion a’r llo a gusanent. Syr. dynion
Cusanent#gan addoli lloi. Vulg. loi.
3Am hyny y byddant fel cwmwl y boreu;
Ac fel y gwlith a ymedy yn foreu:
Fel us#blewach, gwlanach. llwch. Vulg. LXX. a chwythir#a eheda. Syr. o lawr dyrnu;
Ac fel mwg o ffumer.
4A myfì yw yr Arglwydd dy Dduw o dir yr Aipht:
A Duw heblaw myfi nid adnabyddi;
A gwaredwr nid oes ond Myfi.
5Myfi a’th adnabum#fugeiliais. LXX. borthais. Syr. yn y diffaethwch:
Yn nhir sychder mawr:#sychderau. Hebr. sychder heb drigianydd. Syr. unigrwydd. Vulg. mewn tir annhrigadwy. LXX.
6Fel yr oedd eu porfa#porthais hwynt a llanwasant eu bol. Syr. y cawsant eu gwala;
Cawsant eu gwala a chododd#a chodwyd eu. LXX. codasant eu. Vulg. eu calon:
Am hyny annghofiasant Fi.
7A myfi a fyddaf iddynt fel llew;#panther. LXX. llewes. Vulg.
Megys llewpard ar ffordd y dysgwyliaf.#ar ffordd Assuriaid y cyfarfyddaf â. LXX. yn ffordd Assuriaid. Vulg. y paraf synu. Syr.
8Cwympaf#y cyfarfyddaf â. Vulg. arnynt fel arth wedi colli ei chenawon;#anghenog, LXX. ysglyfaeth. Syr.
Rhwygaf orchudd eu calon#afu. Vulg. hwynt:
A difaf hwynt yno fel llew;#a chenawon gallt a’u difa hwynt yno. LXX. llewes. Vulg. llew a’u bwyty hwynt yno. Syr.
Bwystfil y maes a’u llerpia hwynt.
9Yn dy ddinystr#mi a’th ddinystriais, Israel, pwy a’th gynorthwya. Syr. pwy a gynorthwya dy ddinystr, Israel. LXX. Israel,
Diau mai ynof fi y mae dy gymorth.
10Yn awr pa le y mae dy frenin;
Yr hwn a’th weryd yn dy holl ddinasoedd:
A’th farnwyr#barned efe di am yr hwn y. LXX.;
Am y rhai y dywedaist;
Dyro i mi frenin a thywysogion.
11Rhoddwn#rhoddaf Vulg. i ti frenin yn fy nig;
A chymerwn#cymeraf Vulg. ef maith yn fy llid.
12Rhwymwyd#cymbleth, pellen anwiredd Ephraim. LXX. anwiredd Ephraim;
Cuddiwyd ei bechod.
13Gwewyr un#gofidiau fel un yn. Syr. yn esgor a ddeuant arno:
Mab annghall yw efe;
Canys nid arosai#ni ddylai aros, canys yn awr ni saif. Vulg. amser yn esgoreddfa plant.
14O law y byd isod#annwfn, anwelfa. LXX. angeu. Vulg. yr achubwn#achubaf. LXX., Syr., Vulg. hwynt;
Oddiwrth angeu y gwaredwn#gwaredaf. LXX., Syr., Vulg. hwynt:
Byddwn#pa le. LXX. yn ddifrod#dy blaau, dy ddial. LXX. i ti angeu,
Byddwn#pa le. LXX. yn dranc#dy golyn. LXX. i ti fyd isod;#uffern. Vulg
Cuddid edifeirwch#cysur. LXX. Syr. Vulg. o’m golwg.
15Er y byddai yn ffrwythlon#am y gwna efe wahanu. LXX. ranu. Vulg. ym rhwng. Syr. yn mhlith brodyr:
Daw gwynt y dwyrain,#dwg yr Arglwydd boethwynt o’r anialwch arno. LXX. daw gwynt yr Arglwydd o’r dwyrain. Syr.
Gwynt yr Arglwydd yn codi o’r anialwch,
Ac efe a sych ei bydew#wythienau. LXX. Vulg. ef,
Ac a ddysbydda ei ffynon ef;
Efe a ysbeilia drysorfa pob llestr dymunol.
16Samaria a wneir yn euog;#ddiffaethir. LXX. darfydded. Vulg.
Am wrthryfela#wrthsefyll. LXX. chwerwi ei. Syr. Vulg. o honi yn erbyn ei Duw:
Trwy y cleddyf y syrthiant;
Eu plant bychain#plant ar fron. LXX. a ddryllir;
A’u#a’i wragedd. Hebr. gwragedd beichiogon a rwygir.

ที่ได้เลือกล่าสุด:

Hosea 13: PBJD

เน้นข้อความ

แบ่งปัน

คัดลอก

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้