Matthew 7

7
Crist yn condemnio barn fyrbwyll.
[Luc 6:37–42]
1Na fernwch, fel na'ch barner. 2Canys â pha farn y barnoch y'ch bernir, ac â pha fesur y mesuroch y mesurir i chwithau. 3A phaham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn#7:3 Neu gwelltyn. sydd yn llygad dy frawd ac nad wyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun? 4Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gad i mi fwrw allan y brycheuyn o'th lygad; ac wele, y trawst yn dy lygad dy hun? 5O ragrithiwr! bwrw allan yn gyntaf y trawst o'th lygad dy hun; ac yna y gweli yn eglur#7:5 Llythyrenol, gweled drwy, neu yn drwyadl. i fwrw allan y brycheuyn o lygad dy frawd.
Gweddi a'r Rheol Euraidd.
[Luc 11:9–13]
6Na roddwch yr hyn sydd sanctaidd i'r cŵn, ac na theflwch eich perlau o flaen y moch, rhag iddynt un amser eu sathru â'u traed, a throi a'ch rhwygo chwi.
7Gofynwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi. 8Canys pob un sydd yn gofyn sydd yn derbyn, a'r hwn sydd yn ceisio sydd yn cael, ac i'r hwn sydd yn curo yr agorir. 9Neu a oes dyn o honoch, yr hwn, os gofyn ei fab iddo dorth, a rydd#7:9 A law‐rodda, neu a estyn efe iddo garreg? 10Neu os gofyn iddo hefyd bysgodyn, a rydd efe sarff iddo? 11Os chwychwi, gan hyny, a chwi yn ddrwg, a wyddoch pa fodd i roddi rhoddion da i'ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y Nefoedd bethau da i'r rhai a ofynant iddo? 12Gan hyny, pa bethau bynag oll a ewyllysioch i ddynion eu gwneuthur i chwi, felly gwnewch chwithau hefyd iddynt hwy; canys hyn yw y Gyfraith a'r Proffwydi.
Y llwybr cyfyng a'r ffordd eang.
13Ewch i fewn drwy y porth cyfyng, canys llydan yw y porth ac eang yw y ffordd sydd yn arwain ymaith i'r Golledigaeth, a llawer yw y rhai sydd yn myned i fewn drwyddi. 14Oblegyd#7:14 Oblegyd cyfyng, א B Ti. Al. WH. Diw. Mor gyfyng, C L Δ E G, &c., La. Tr. cul yw y#7:14 Y porth yn y prif‐lawysgrifau a Brnd., Gad., rhai llawysgrifau o'r Hen Ladin. porth a chyfyngedig#7:14 Llyth., gwasgedig, cyfyngedig. yw y ffordd sydd yn arwain i'r Bywyd, ac ychydig yw y rhai sydd yn ei chael hi.
Y Gau‐broffwyd fel pren gwael.
[Luc 6:43, 44]
15Ymogelwch rhag gau broffwydi, y rhai sydd yn dyfod atoch yn ngwisgoedd defaid, ond oddifewn y maent yn fleiddiaid rheibus. 16Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. A ydynt yn casglu grawnsypiau oddiar ddrain, neu ffigys oddiar ysgall? 17Felly, pob pren da sydd yn dwyn ffrwythau da, ond y pren gwael#7:17 Tapros, pydredig, llygredig, diwerth. sydd yn dwyn ffrwythau drwg. 18Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg na phren gwael ffrwythau da. 19Pob pren heb ddwyn ffrwyth da a dorir i lawr ac a deflir i dân. 20Am hyny, yn wir, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt.
Nid y wefus ond y galon.
21Nid pob un a'r sydd yn dywedyd wrthyf, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i fewn i Deyrnas Nefoedd, ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhad yr Hwn sydd yn y Nefoedd. 22Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phroffwydasom trwy dy enw di? A thrwy dy enw di y bwriasom allan gythreuliaid? Ac yn dy enw di y gwnaethom lawer o weithredoedd#7:22 Dunameis, galluoedd nerthol? 23Ac yna yr addefaf#7:23 Homologeô, proffesu, datgan yn gyhoeddus, cyffesu. wrthynt, Nis adnabuom chwi erioed: ewch ymaith oddiwrthyf, y rhai a weithredwch annghyfiawnder#7:23 Anomia a ddynoda yn llythyrenol, annghyfreithder — y sefyllfa o fod yn anwybodus o'r, neu o dori y gyfraith. Hwn yw y gair cyferbyniol i dikaiosunê, cyfiawnder..
Y ddau adeiladydd.
[Luc 6:46–49]
24Pob un, gan hyny, sydd yn gwrandaw fy ngeiriau [hyn], ac yn eu gwneuthur,#7:24 A gyffelybir, א B Z Brnd., ond Al.; Myfi a'i cyffelybaf, C L Δ. a gyffelybir i wr doeth,#7:24 Phronimos, call, pwyllog, gofalus. yr hwn a adeiladodd ei dy ar y graig; 25a'r gwlaw a ddisgynodd, a'r llif‐ddyfroedd a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y ty hwnw; ac ni syrthiodd, oblegyd yr oedd wedi ei sylfaenu ar y graig. 26A phob un a'r sydd yn gwrandaw fy ngeiriau hyn, ac heb eu gwneuthur, a gyffelybir i wr ffol, yr hwn a adeiladodd ei dy ar y tywod; 27a'r gwlaw a ddisgynodd, a'r llif‐ddyfroedd#7:27 Llyth.: Afonydd. a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y ty hwnw; ac efe a syrthiodd, a'i gwymp a fu fawr.
28A bu, pan orphenodd yr Iesu yr ymadroddion hyn, y torfeydd a darawyd â syndod at ei ddysgeidiaeth ef; 29canys yr oedd efe yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel eu Hysgrifenyddion hwynt#7:29 Eu hysgrifenyddion hwynt, א B Δ Brnd. Yr ysgrifenyddion, L X E..

ที่ได้เลือกล่าสุด:

Matthew 7: CTE

เน้นข้อความ

แบ่งปัน

คัดลอก

None

ต้องการเน้นข้อความที่บันทึกไว้ตลอดทั้งอุปกรณ์ของคุณหรือไม่? ลงทะเบียน หรือลงชื่อเข้าใช้