Ioan 5:1-15

Ioan 5:1-15 DAFIS

Wedi hyn we'r Iddewon in cadw gýyl, a âth Iesu lan i Jeriwsalem. In Jerwisalem, ar bwys Iet i Defed, ma pwll i gâl gyda pump row o golfne rownd 'ddo. Enw'r pwll 'ma in aith ir Iddewon yw Bethsatha. Rhynt i colofne 'ma we lot o bobl we ddim in dda in gorwe, pobl dost, pobl ddall, pobl gloff, neu pobl we'i coese neu breiche nhw wedi parlisu. (Wen nhwy'n gorwe fan 'na in dishgwil i'r dýr simud, achos bob hyn a hyn bise angel in dod lawr i'r pwll a neud i'r dýr simud; wedyn bise'r dyn cinta in i dýr wedi iddo simud in cael i wella o unrhiw beth we arno.) We dyn fan 'ny we wedi bod in dost am ddounaw mline ar hugen. Pan welo Iesu fe'n gorwe fan 'ny, gwedodd e wrtho, 'Wyt ti ishe câl di neud in iawn?' Atebo'r dyn tost, 'Mishtir, sneb 'da fi in roi i in i pwll pan ma'r dýr in simud; achos pan dwi'n treial codi i fynd at i pwll, mae rhiwun arall wastad in mynd miwn o'n flân i.’ Gwedo Iesu wrtho fe, 'Saf ar di drâd, cod di wely lan a cerdda.’ Ar unweth gas i dyn i neud in iawn, cododd e i wely a cered. Dy Sabath wedd i. So wedo'r Iddewon wrth i dyn we wedi câl i neud in iawn, 'Dy Sabath yw i; sen i'n iawn iti godi di wely.’ Atebodd e nhwy, 'Wedo'r dyn nâth neud fi'n iawn, “Cod e lan a cerdda.”' Gofinon nhwy wrtho fe, 'Pwy wedo wrthot ti, “Cod e lan a cerdda”?' Ond we'r dyn we wedi câl i neud in iawn ddim in gwbod pwy wedd e. We Iesu wedi o fan 'ny achos bod crowde 'na. Wedi 'ny câs Iesu afel in i dyn in i demel, a gweu 'tho, 'Dricha, wit ti 'di câl di neud in iawn; so paid pechu, os na wit ti ishe rhwbeth gwâth i ddigwidd iti.’ Âth i dyn a gweu 'th i Iddewon taw Iesu we wedi'i neud e'n well.

อ่าน Ioan 5