Ioan 6:1-15

Ioan 6:1-15 DAFIS

Wedy hyn âth Iesu bant dros Môr Galilea, neu Llyn Tiberias; we crowde mowr in i ddilyn e, achos wen nhwy'n gweld i seins wedd e'n u neud wrth wella dinion we ddim in iawn. Âth Iesu lan mini a ishte fan 'ny 'da i ddisgiblion. We'r Pasg, Gwyl ir Iddewon, in dod o fon hir. Pan ddrichodd Iesu lan a gweld crowd mowr in dwâd ato fe, gwedodd e wrth Philip, 'Ble allwn ni bernu bara i rhein gâl bita?' Gwedodd e 'na i brofi fe; achos wedd e i unan in gwbod in barod beth wedd e'n mynd i neu. Atebo Philip e, 'Byse gwerth dou gant o bune o arian dim ond in ddigon o bob sun gal crwstyn.’ Gweddodd un o'i ddisgiblion, Andreas, brawd Simon Pedr, wrtho, 'Ma crwt bach fan 'yn gida pum cwgen farlish a dau bisgodyn; one ewn nhwy ddim in bell iawn i shwt gwmint!' Gwedo Iesu, 'Halwch i bob un i ishte lawr.’ We lot o borfa in i lle 'ny. So ishteddodd i dinion lawr; we rhiw bum mil onyn nhwy i gyd. Wedyn cwmrodd Iesu'r cwgeni bach we 'da'r crwt, a wedi diolch i Dduw fe ranodd e nhwy rhynt i dinion fel wen nhwy'n ishte, a nâth e'r un peth 'da'r pisgod 'fyd. Gâs bob un gwmint a wen nhwy moyn. Pan we pob un wedi câl digon gwedodd e wrth i ddisgiblon, 'Casglwch y crwste sy dros ben, fel bo ddim byd in câl i golli.’ Wedi casglu ffeindod nhw bo douddeg basgeded o fara dros ben 'da nhwy o'r pum cwgen farlish we 'da nhwy i fita in i lle cinta. Gwedo'r dinion welodd e'n neud hyn, 'Sdim dowt taw hwn yw'r Proffwd sy'n dod miwn i'r byd.’ Ond we Iesu in gwbod bo nhwy'n golgu dod a mynd ag ei i neud e'n frenin, so âth e bant i ben i mini ar ben i unan.

อ่าน Ioan 6