Ioan 6:41-51
Ioan 6:41-51 DAFIS
Nawr we'r Iddewon in clebran amdano fe achos i fod e wedi gweud, 'Fi yw'r bara sy wedi dishgyn o'r nefodd.” Gwedon nhwy, 'Nage Iesu yw hwn, mab Joseff — senon ni'n nabod i dad a'i fam? Shwt mae e'n gweud nawr, 'Dwi wedi dishgyn o'r nefodd”?' Atebo Iesu nhwy, 'Peidwch clebran rhynt ich gily. Sneb in galler dod ata i os nad yw'r Tad nâth in hala i in u tinnu nhwy ata i; a bidda i'n godi fe lan ar i Dwarod dwetha. Mae e wedi câl i reito in i Proffwydi, “A bydd Duw in i disgu nhwy i gyd.” Ma pob un sy wedi cliwed i Tad a wedi disgu 'dag e in dod ata i. Sena i'n gweud bo neb wedi gweld i Tad. Ond wi'n gweud i gwir wrthoch chi nawr, ma unrhiw un sy credu inda i â bowid am byth gidag e. Fi yw bara''r bowid. Bitodd ich tade chi i manna mas in i lle diffeth, ond marwon nhwy. 'Co'r bara sy'n dod i lawr o'r nefodd, gallwch chi fita hwn a peido mawr. Fi yw'r bara byw sy'n dod lawr o'r nefodd. Os bydd unrhiw un in bita'r bara hwn bydd e'n byw am byth; a'r bara sda fi i chi yw in gnawd i; dwi'n ei roi e dros fowid y byd.’