Ioan 6:60-65
Ioan 6:60-65 DAFIS
Pan gliwo lot o'i ddisgiblion e'n gweud hyn, mynte nhwy, 'Ma 'na beth caled i'w weud. Pwy sy'n galler grondo ar hyn?' We Iesu in gwbod indo'i unan bo'i ddisgiblion e'n sharad fel 'yn, a gwedodd e wrthyn nhwy, 'Odych chi'n sinnu at beth dwi'n gweud? Beth wedyn 'te os byse Crwt i Dyn in mynd lan i ble wedd e o'r blân? Ir isbryd sy'n rhoi bowid; seno'r cnawd in lot o help. Mae'r geire wi wedi gweu 'tho chi in isbryd ac in fowid. Ond wedyn weth ma rhei 'noch chi sydd ddim in folo credu.’ Achos we Iesu in gwbod o'r start pwy we'r rhei wenyn nhwy'n mynd i gredu, a phwy we'r rhei fyse'n i roi e bant. A gwedodd e, 'Co pam wedes i wrtho chi bo neb in galler dod ata i os na we'r Tad wedi'u rhoi nhwy i fi in i dachre.’