Marc 11:15-19

Marc 11:15-19 DAW

Aeth Iesu i mewn i'r deml yn Jerwsalem a gyrrodd allan y rhai oedd yn prynu a gwerthu yno. Dymchwelodd fyrddau'r cyfnewidwyr arian a chadeiriau'r rhai oedd yn gwerthu colomennod. Doedd e ddim yn fodlon i neb gario unrhyw beth drwy'r deml chwaith. Dechreuodd ddysgu yno a dweud, “Ydy hi ddim yn ysgrifenedig: ‘Gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd ond rydych chi wedi'i wneud yn ogof lladron’?” Am eu bod yn ei ofni ac yn gweld ei effaith ar y dyrfa, aeth y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion i chwilio am ffordd i'w ladd. Gyda'r hwyr, aeth Iesu a'r disgyblion allan o'r ddinas.

Прочитати Marc 11