Marc 11:1-11

Marc 11:1-11 DAW

Pan ddaethon nhw'n agos i Jerwsalem, yn ymyl Bethffage a Bethania a Mynydd yr Olewydd, dwedodd Iesu wrth ddau o'i ddisgyblion, “Ewch i'r pentref sy o'ch blaen chi, ac wrth i chi fynd i mewn iddo, cewch ebol wedi'i rwymo; does neb wedi bod ar ei gefn erioed. Gollyngwch ef a dewch ag ef yma. Os bydd rhywun yn gofyn i chi pam rydych chi'n gwneud hynny, dwedwch wrthyn nhw bod y Meistr ei eisiau, ac y bydd yn ei ddychwelyd yn y man.” Aeth y ddau i'r pentref a gweld yr ebol wedi'i glymu wrth ddrws, ac fe'i gollyngon nhw ef. Gofynnodd rhai o'r bobl oedd yn sefyll yno pam roedden nhw'n gollwng yr ebol. Atebon nhw fel roedd Iesu wedi dweud, a gadawyd iddyn nhw fynd. Daethon nhw â'r ebol yn ôl a rhoi eu dillad arno, ac eisteddodd Iesu ar ei gefn. Wrth fynd i Jerwsalem, taenodd rhai eu mentyll ac eraill ganghennau deiliog ar y ffordd ac roedd rhai yn gweiddi: “Hosanna! Bendigedig ydy'r hwn sy'n dod yn enw'r Arglwydd. Bendigedig ydy'r deyrnas sy'n dod, teyrnas ein tad Dafydd; Hosanna yn y goruchaf!” Pan ddaeth Iesu i mewn i Jerwsalem aeth i'r deml. Edrychodd ar bopeth o'i amgylch, ond gan ei bod yn hwyr, aeth gyda'r Deuddeg i Fethania.

Прочитати Marc 11