Marc 4:21-25

Marc 4:21-25 DAW

Gofynnodd Iesu, “Fydd rhywun yn cynnau cannwyll a'i rhoi dan lestr neu wely? Oni fyddai'n well ei gosod mewn canhwyllbren? Does dim sy wedi'i guddio na chaiff ei ddatguddio, ac ni ddodwyd dim o'r neilltu na ddaw i'r amlwg. Os oes clustiau gennych, gwrandewch.” Dwedodd Iesu hefyd, “Gwrandewch yn astud ar yr hyn a glywch. Fe dderbyniwch yn ôl yr hyn y rhowch i eraill, ac fe roddir rhagor i chi. Mae'r un sy â rhywbeth ganddo yn cael mwy, ond am y sawl sy heb ddim, fe gymerir oddi arno hyd yn oed hynny sy ganddo.”

Прочитати Marc 4