Biểu trưng YouVersion
Biểu tượng Tìm kiếm

Lyfr y Psalmau 6

6
1Arglwydd, na cherydda f’ enaid
Yn dy lid yn danbaid iawn;
Ac na chospa ’th blentyn euog
Yn dy ddigter llidiog llawn:
2Dangos immi dy raslonrwydd,
Llesg yw ’nghalon, gwael, a gwyw;
O iachâ ddyrnodiau ’th gerydd,
F’ esgyrn beunydd sydd yn friw.
3Dirfawr y dychrynwyd f’ enaid
Gan dy gerydd digllon Di;
Tithau, Dduw, ai byth heb ddiwedd?
O pa hyd y cospi fi?
4Dwg dy law yn ol i’m gwared,
Arbed yn dy ras a’th hedd;
5Pwy a’th gofia ym marwolaeth?
Pwy a’th fawl yn llwch y bedd?
6Llwyr ddiffygiais gan fy ochain,
Gan f’ wylofain nos a dydd;
Gwlyb yw ’ngwely gan fy nagrau,
A’m gorweddle ’n foddfa sydd:
7Pylodd canwyll glir fy llygad,
Arglwydd, gan gyfyngder f’ oes;
Dwl a thywyll yw ’m golygon,
Herwydd fy ngelynion croes.
8Ciliwch oll ym mhell oddi wrthyf,
Ddynion anwir; 9clybu ’m Duw
Lef wylofus fy neisyfiad;
Gwrandâwr gweddi ’r eiddil yw:
10Mewn gwaradwydd a thrallodion
Bo ’m gelynion cas i gyd;
Poed ddisymmwth eu dychweliad,
Ffoant oll yn warth i’r byd.

Tô màu

Chia sẻ

Sao chép

None

Bạn muốn lưu những tô màu trên tất cả các thiết bị của mình? Đăng ký hoặc đăng nhập