YouVersion 標識
搜索圖示

Matthew Lefi 5:13-16

Matthew Lefi 5:13-16 CJW

Chwi yw halen y ddaiar. Os merfeiddiodd yr halen, pa fodd yr adferir ei halltrwydd ef? Nid ydyw mwyach yn gymhwys i ddim, ond iddei daflu allan, a’i sathru dàn draed. Chwi yw goleuni y byd. Dinas yn gorwedd àr fynydd raid fod yn amlwg. Llusern á oleuir iddei osod, nid o dàn lestr, ond àr ddaliadur, fel y goleuo i’r holl deulu. Felly, llewyrched eich goleuni gèr gwydd dynion, fel, drwy weled eich gweithredoedd da chwi, y gogoneddont eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.