Amavesi eBhayibheli adumile avela kokuthi Salmau 1

Canys hoffa yr Arglwydd ddull y cyfiawn o fyw, Ond dinistria ddull bywyd yr annuwiol. SALM I Salm amddifad yw’r Salm gyntaf; nid oes iddi deitl nac enw awdur, nac unrhyw gyfeiriad hanesyddol i benderfynu ei chyfnod ac amser ei chyfansoddi. Unwaith safai’n gwbl ar wahân i’r Salmau, fel rhyw fath o ragymadrodd neu brolog. Yn Actau 13:33, yr Ail Salm a ddyfynnir, ond yn ôl y darlleniad gorau fe ddylid darllen, “Megis yr ysgrifennwyd yn y Salm gyntaf”. Bu’n arfer cynnar gysylltu’r Salm gyntaf a’r ail, a dyma ystyr y frawddeg a geir yn y Talmwd, “ddechrau a diweddu’r Salm gyntaf gyda Gwynfyd”. Ond er eu cysylltu unwaith nid oes gystlwn na pherthynas rhwng y ddwy. Diau ei chyfansoddi yn ddiweddar ar ôl cwplau casglu’r Salmau, ac efallai ei chyfansoddi yn unswydd gan y golygydd olaf fel rhagymadrodd i’r casgliad. Gwaith addas iawn oedd ei dodi yma, a chyntedd brydferth ydyw i’r deml geinaf a gododd ysbryd defosiwn dyn erioed. 1. Y mae triawdau’r adnod yn drawiadol, ac yn enghraifft berffaith o brif nodwedd barddoniaeth Hebraeg. (a) rhodio (b) cyngor (c) annuwiolion Boed hyn ym meddwl y Salmydd neu beidio, y mae’r disgyn o ris i ris i afael drygioni yn ffaith; o rodio, ymdroir, ac o ymdroi ymdrybaeddu. Annuwiolion, sy’n euog o bechu yn erbyn Duw a dyn, yn foesol ddrwg. Pechaduriaid, yr anunion a’r gwyrgeimion sy’n methu â chyrraedd a chadw safonau uniondeb. Gwatwarwyr, sy’n cellwair yn agored ddisgyblaeth Doethineb, a chrefydd. 2. Rhyw ysgrifennydd delfrydol fel Esra sy’n meddwl yr awdur, un a ddyry ei holl fryd a’i holl amser i fyfyrio Cyfraith yr Arglwydd, sef holl fanylion y Pentateuch. Mewn mannau eraill gall Cyfraith yr Arglwydd olygu Ei holl feddwl datguddiedig Ef. Y mae ‘sisial’ neu ‘fyngial’ yn well na ‘myfyrio’, — y mae iseladrodd er mwyn cofio yn ddull a nodwedda’r myfyriwr dwyreiniol. 3. Darlun wedi ei fenthyg o Jer. 17:8 ac Esec. 47:12. 4. Ym Mhalesteina ar y bryniau yr oedd y lloriau dyrnu, — disgyn y grawn i’r ddaear, ond cipir y manus gan y gwynt. 5. Sonia Iesu yn Luc 14:14 am “Atgyfodiad y rhai cyfiawn”. 1. A oes gan y cyfiawn hawl i ddisgwyl y dedwyddwch a’r llwyddiant a briodolir iddo yma? 2. Ym mha fodd y dyry myfyrdod dwys o’r Ysgrythur gadernid cymeriad i ddyn? 3. Cymherwch syniad annelwig y Salm hon am Atgyfodiad â dysgeidiaeth y Testament Newydd.