1
Rhufeiniaid 12:2
beibl.net 2015, 2024
bnet
O hyn ymlaen rhaid i chi stopio ymddwyn yr un fath â phobl sydd ddim yn credu. Gadewch i Dduw newid eich bywyd chi’n llwyr drwy chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau. Byddwch yn gwybod wedyn beth mae Duw eisiau, ac yn gweld fod hynny’n dda ac yn ei blesio fe, ac mai dyna’r peth iawn i’w wneud.
አወዳድር
{{ጥቅስ}} ያስሱ
2
Rhufeiniaid 12:1
Felly, am fod Duw wedi bod mor drugarog wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, dw i’n apelio ar i chi roi eich hunain yn llwyr i Dduw. Cyflwyno eich hunain iddo yn aberth byw – un sy’n lân ac yn dderbyniol ganddo. Dyna beth ydy addoliad go iawn!
3
Rhufeiniaid 12:12
Byddwch yn llawen wrth feddwl am y cwbl sydd gan Dduw ar eich cyfer chi. Byddwch yn amyneddgar tra dych chi’n dioddef, a daliwch ati i weddïo.
4
Rhufeiniaid 12:21
Paid gadael i ddrygioni dy ddal yn ei grafangau – trecha di ddrygioni drwy wneud daioni.
5
Rhufeiniaid 12:10
Byddwch o ddifri yn eich gofal am eich gilydd, a dangos parch at eich gilydd.
6
Rhufeiniaid 12:9
Rhaid i’ch cariad chi fod yn gariad go iawn – dim rhyw gariad arwynebol. Yn casáu y drwg â chasineb perffaith, ac yn dal gafael yn beth sy’n dda.
7
Rhufeiniaid 12:18
Gwnewch bopeth allwch chi i fyw mewn heddwch gyda phawb.
8
Rhufeiniaid 12:19
Peidiwch mynnu dial ar bobl, ffrindiau; gadewch i Dduw ddelio gyda’r peth. Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “‘Fi sy’n dial; gwna i dalu yn ôl’ meddai’r Arglwydd.”
9
Rhufeiniaid 12:11
Peidiwch byth â gadael i’ch brwdfrydedd oeri, ond bod ar dân yn gweithio i’r Arglwydd yn nerth yr Ysbryd Glân.
10
Rhufeiniaid 12:3
Gadewch i mi ddweud hyn wrthoch chi, fel rhywun mae Duw wedi bod mor garedig ato: Peidiwch meddwl eich bod chi’n well nag ydych chi. Byddwch yn onest gyda chi’ch hun wrth ystyried faint o ffydd mae Duw wedi’i roi i chi.
11
Rhufeiniaid 12:17
Peidiwch byth talu’r pwyth yn ôl. Gadewch i bobl weld eich bod yn gwneud y peth anrhydeddus bob amser.
12
Rhufeiniaid 12:16
Byddwch yn ffrindiau da i’ch gilydd. Peidiwch meddwl eich bod yn rhy bwysig i fod yn ffrindiau gyda’r bobl hynny sy’n ‘neb’. Peidiwch rhoi’r argraff eich bod yn gwybod y cwbl.
13
Rhufeiniaid 12:20
Dyma ddylet ti ei wneud: “Os ydy dy elyn yn llwgu, rho fwyd iddo; os ydy e’n sychedig, rho rywbeth i’w yfed iddo; wrth wneud hynny byddi’n tywallt marwor tanllyd ar ei ben.”
14
Rhufeiniaid 12:14-15
Peidiwch melltithio’r bobl hynny sy’n eich erlid chi – gofynnwch i Dduw eu bendithio nhw. Byddwch yn llawen gyda phobl sy’n hapus, a chrio gyda’r rhai sy’n crio.
15
Rhufeiniaid 12:13
Rhannwch beth sydd gynnoch chi gyda phobl Dduw sydd mewn angen. Ewch allan o’ch ffordd i roi croeso i ymwelwyr yn eich cartrefi bob amser.
16
Rhufeiniaid 12:4-5
Mae’r eglwys yr un fath â’r corff dynol – mae gwahanol rannau i’r corff, a dydy pob rhan o’r corff ddim yn gwneud yr un gwaith. Yn yr eglwys dŷn ni gyda’n gilydd yn gwneud un corff, sef corff y Meseia. Mae pob un ohonon ni’n rhan o’r corff ac mae arnon ni angen pawb arall.