የYouVersion አርማ
የፍለጋ አዶ

Mathew 2

2
Dyfodiad y sêr-ddewiniaid
1Ganwyd Iesu ym Methlehem yng ngwlad Jwdea, pan oedd Herod yn frenin yno. Wedi ei eni daeth sêr-ddewiniaid o’r dwyrain i Jerwsalem 2gan holi, “Ymhle mae brenin yr Iddewon sydd newydd ei eni? Oherwydd fe welsom ei seren ef yn codi, a dyma ni wedi dod i dalu gwrogaeth iddo.” 3Pan ddaeth hyn i glustiau’r brenin Herod, fe’i cynhyrfwyd yn ddirfawr, a thrigolion Jerwsalem i gyd gydag ef. 4Dyma yntau’n galw ynghyd yr holl brif offeiriaid ac athrawon y Gyfraith, a gofyn iddyn nhw, “Ymhle mae’r Meseia i gael ei eni?” 5“Ym Methlehem yng ngwlad Jwdea,” medden nhwythau, “oherwydd fel hyn yr ysgrifennwyd gan y proffwyd:
6Bethlehem, yng ngwlad Jwda,
Nid ti o bell ffordd yw’r lleiaf ym mhlith tywysogion Jwda,
Oherwydd ohonot ti y daw arweinydd
I fugeilio fy mhobl Israel!”
7Dyma Herod wedyn yn gwahodd y sêr-ddewiniaid i’w gyfarfod heb yn wybod i neb, ac yn mynnu gwybod ganddyn nhw pa bryd yn hollol yr ymddangosodd y seren. 8Yna mae’n eu danfon i Fethlehem, gan ddweud, “Holwch yn fanwl am y plentyn a dowch â gwybod i mi er mwyn i minnau gael mynd i’w addoli ef.”
9Dyna nhw’n mynd wedi gwrando ar y brenin, a’r seren welson nhw yn codi yn mynd o’u blaen ac yn sefyll uwchben y lle roedd y baban yn gorwedd. 10Fe’u llanwyd nhw â llawenydd mawr dros ben wrth weld y seren. 11Wedi dod i’r tŷ, fe welson nhw’r baban ym mreichiau Mair ei fam. Wedyn ar ôl ymgrymu i’r llawr mewn gwrogaeth iddo, dyma nhw’n agor eu coffrau a rhoi iddo anrhegion o aur a thus a myrr.
12Yna, wedi cael eu rhybuddio mewn breuddwyd i beidio â mynd yn ôl at Herod, dyma nhw’n dychwelyd i’w gwlad ar hyd ffordd arall.
Ffoi i’r Aifft
13Wedi iddyn nhw fynd, dyma angel oddi wrth yr Arglwydd yn ymddangos i Joseff mewn breuddwyd ac yn dweud, “Cod, cymer y plentyn a’i fam, a ffo i’r Aifft, ac aros yno nes i mi ddweud wrthyt; oherwydd mae ym mryd Herod i chwilio am y plentyn i’w ladd.” 14Cododd yntau o gwsg, cymerodd y plentyn a’i fam yn y nos, a chiliodd i’r Aifft. 15Yno yr arhosodd nes i Herod farw. Felly daeth yn wir yr hyn ddywedodd yr Arglwydd drwy’r proffwyd: “O’r Aifft y gelwais fy mab.”
Dial dieflig
16Pan ddeallodd Herod fod y sêr-ddewiniaid wedi ei dwyllo, fe aeth o’i gof yn lân. Anfonodd filwyr i ladd yr holl fechgyn ym Methlehem a’r cylch a oedd yn ddwyflwydd oed neu dan hynny, gan gyfrif o’r dyddiad a gafodd drwy holi’r dewiniaid yn fanwl. 17Ac felly y daeth geiriau a ddywedodd Jeremeia y proffwyd yn ffaith:
18“Fe glywyd llais yn Rama,
Wylo a galar mawr;
Rachel yn wylo am ei phlant,
Gan wrthod pob cysur,
Am nad oedden nhw’n fyw mwyach.”
Dychwelyd o’r Aifft
19Ond bu farw Herod; ac ymddangosodd angel oddi wrth yr Arglwydd i Joseff mewn breuddwyd yn yr Aifft, 20a dweud wrtho, “Cod, cymer y plentyn a’i fam, a dos i wlad Israel, oherwydd mae’r rhai oedd yn bygwth bywyd y plentyn wedi marw.” 21Cododd yntau, cymerodd y plentyn a’i fam, a daeth yn ôl i wlad Israel. 22Ond pan glywodd fod Archelaus wedi dilyn ei dad Herod yn Frenin Jwdea, roedd yn ofni mynd yno. Ac wedi ei rybuddio mewn breuddwyd, fe giliodd i ranbarth Galilea, 23gan gartrefu mewn tref o’r enw Nasareth. Felly y daeth geiriau’r proffwydi’n wir, y gelwid ef yn Nasaread.

Currently Selected:

Mathew 2: FfN

ማድመቅ

Share

Copy

None

ያደመቋቸው ምንባቦች በሁሉም መሣሪያዎችዎ ላይ እንዲቀመጡ ይፈልጋሉ? ይመዝገቡ ወይም ይግቡ