የYouVersion አርማ
የፍለጋ አዶ

Ioan 4

4
1Felly pan wybu’r Arglwydd fod y Phariseaid wedi clywed bod Iesu’n gwneuthur ac yn bedyddio mwy o ddisgyblion na Ioan, 2— er nad oedd Iesu ei hun yn bedyddio, eithr ei ddisgyblion — 3gadawodd Iwdea ac aeth yn ôl i Galilea. 4Ac yr oedd yn rhaid iddo fyned trwy Samaria, 5ac felly y mae’n dyfod i ddinas yn Samaria a elwir Sychar, yn ymyl y tir a roes Iacob i’w fab Ioseff, 6ac yno yr oedd Ffynnon Iacob. A chan fod yr Iesu wedi blino gan y daith, eisteddodd fel yr oedd wrth y ffynnon, a thua’r chweched awr oedd hi. 7Y mae gwraig o Samaria yn dyfod i dynnu dwfr; medd yr Iesu wrthi: “Dyro imi ddiod,” 8— canys aethai ei ddisgyblion ymaith i’r ddinas i brynu bwydydd. 9Felly medd y wraig o Samaria wrtho: “Pa fodd yr wyt ti, a thithau’n Iddew, yn gofyn am ddiod gennyf i, a minnau’n Samaritanes?” (canys nid oes dim cyfathrach rhwng Iddewon a Samariaid). 10Atebodd Iesu a dywedodd wrthi: “Pe buasit yn gwybod rhodd Duw, a phwy yw’r hwn sy’n dywedyd wrthyt ‘dyro imi ddiod,’ tydi a fuasai’n gofyn ganddo ef, a rhoesai yntau i ti ddwfr byw.” 11Medd hithau wrtho: “Syr, nid oes gennyt biser, a hefyd y mae’r pydew’n ddwfn; o ba le felly y mae’r dwfr byw hwn gennyt? 12A wyt ti’n fwy na Iacob, ein tad ni, a roes y pydew inni, ac yfodd yntau ohono, a’i feibion a’i ddiadelloedd?” 13Atebodd Iesu a dywedodd wrthi: “Pob un sy’n yfed o’r dwfr hwn, fe ddaw syched arno wedyn, 14ond pwy bynnag a yfo o’r dwfr a roddaf i iddo, ni ddaw syched arno byth yn dragywydd, ond â’r dwfr a roddaf i iddo yn ffynhonnell ddwfr ynddo yn ffrydio i fywyd tragwyddol.” 15Medd y wraig wrtho: “Syr, dyro imi’r dwfr hwn, fel na bo syched arnaf a cherdded yma i dynnu dwfr.” 16Medd ef wrthi: “Dos, galw dy ŵr a thyred yma.” 17Atebodd y wraig a dywedodd: “Nid oes gennyf ŵr.” Medd yr Iesu wrthi: “Gwych y dywedaist ‘Nid oes gennyf ŵr,’ 18oherwydd pump o wŷr a fu gennyt, a’r hwn sydd gennyt yn awr, nid dy ŵr di ydyw; hyn o wir a ddywedaist.” 19Medd y wraig wrtho: “Syr, mi welaf mai proffwyd wyt ti. 20Addolodd ein tadau ni yn y mynydd hwn, ac yr ydych chwithau’n dywedyd mai yng Nghaersalem y mae’r lle y dylid addoli.” 21Medd yr Iesu wrthi: “Cred fi, wreigdda, fod adeg yn dyfod pryd na byddwch yn addoli’r tad yn y mynydd hwn nac yng Nghaersalem. 22Yr ydych chwi’n addoli’r hyn ni wyddoch a ninnau’n addoli’r hyn a wyddom, am fod y waredigaeth o’r Iddewon. 23Ond y mae’r adeg yn dyfod, ac y mae yn awr, pan addolo’r gwir addolwyr y tad mewn ysbryd a gwirionedd, oherwydd dyna’n wir y fath a gais y tad yn addolwyr iddo. 24Ysbryd yw Duw, a rhaid i’w addolwyr addoli mewn ysbryd a gwirionedd.” 25Medd y wraig wrtho: “Gwn fod Meseia yn dyfod, a elwir yn Eneiniog. Pan ddêl hwnnw, fe fynega bopeth inni.” 26Medd yr Iesu wrthi: “Myfi sydd yn siarad â thi ydyw.” 27Ac ar hynny daeth ei ddisgyblion, a synnent ei fod yn siarad â merch, ond er hynny ni ddywedodd neb, ‘Beth yr wyt ti’n ei geisio?’ neu ‘Am beth yr wyt ti’n siarad â hi?’ 28Gadawodd y wraig felly ei llestr, ac aeth ymaith i’r dref, ac medd wrth y bobl: 29“Dewch i weled dyn a ddywedodd wrthyf bopeth a wneuthum; tybed nad hwn yw’r Eneiniog#4:29 Neu: y Meseia, neu: y Crist.?” 30Aethant allan o’r dref, ac yr oeddynt ar eu ffordd tuag ato. 31Yn y cyfamser, erfyniai ei ddisgyblion arno a dywedyd: “Rabbi, bwyta.” 32Meddai yntau wrthynt: “Y mae gennyf i ymborth i’w fwyta na wyddoch chwi ddim amdano.” 33Felly dywedodd y disgyblion wrth ei gilydd: “Yn siŵr, ni ddaeth neb â bwyd iddo?” 34Medd yr Iesu wrthynt: “Fy mwyd i yw gwneuthur ewyllys yr hwn a’m hanfonodd i, a dwyn ei waith i ben. 35Oni byddwch chwi ’n dywedyd, ‘Pedwar mis eto a bydd yn gynhaeaf,’ ond dyma fi’n dywedyd wrthych, ‘Codwch eich llygaid a sylwch ar y meysydd eu bod yn wynion i gynhaeaf.’ 36Y mae’r medelwr eisoes yn derbyn ei gyflog, ac yn casglu cynnyrch i fywyd tragwyddol, fel y llawenhao’r heuwr a’r medelwr ynghyd, 37oherwydd yn hyn o beth y mae’r gair yn wir mai un sy’n heu ac arall yn medi. 38Gyrrais i chwi i fedi’r hyn nid ydych wedi llafurio wrtho; eraill sydd wedi llafurio ac aethoch chwithau i mewn i’w llafur hwynt.”
39Ac o’r dref honno credodd llawer o’r Samariaid ynddo oherwydd gair y wraig yn tystio, “Dywedodd wrthyf bopeth a wneuthum.” 40Felly pan ddaeth y Samariaid ato, erfynient arno aros gyda hwy; ac arhosodd yno ddeuddydd. 41A chredodd mwy o lawer oherwydd ei ymadrodd ef ei hun, 42a dywedasant wrth y wraig: “Nid o achos dy siarad di yr ydym yn credu bellach, canys clywsom ein hunain, a gwyddom mai hwn mewn gwirionedd yw gwaredwr y byd.”
43Ac ar ôl y ddeuddydd, aeth allan oddiyno i Galilea, 44oherwydd tystiodd Iesu ei hunan nad oes anrhydedd i broffwyd yn ei wlad ei hun. 45Felly pan ddaeth i Galilea, derbyniodd y Galileaid ef ar ôl gweled popeth a wnaeth yng Nghaersalem ar yr ŵyl, oherwydd aethent hwythau hefyd i’r ŵyl.
46Felly daeth yn ôl i Gana Galilea, lle y gwnaethai’r dwfr yn win. Ac yr oedd rhyw swyddog llys, a chanddo fab yn glaf, yng Nghapernaum. 47Clywodd hwnnw fod Iesu wedi dyfod o Iwdea i Galilea, a daeth ato ac erfyniodd arno ddyfod i lawr ac iacháu ’i fab, gan ei fod ar farw. 48Felly dywedodd yr Iesu wrtho: “Oni welwch arwyddion a rhyfeddodau, ni chredwch o gwbl.” 49Medd y swyddog wrtho: “Syr, tyred i lawr cyn marw fy machgen bach.” 50Medd yr Iesu wrtho: “Dos, y mae dy fab yn fyw.” Credodd y dyn y gair a ddywedodd yr Iesu, a chychwynnodd. 51Ag yntau eisoes ar ei ffordd i lawr, daeth ei weision i’w gyfarfod a dywedyd bod ei fachgen yn byw. 52Felly holodd hwynt am yr awr pan droes ar wella, ac meddent hwythau wrtho: “Doe ar y seithfed awr y gadawodd y dwymyn ef.” 53Felly gwybu’r tad mai dyna’r awr y dywedodd yr Iesu wrtho, “Y mae dy fab yn fyw.” A chredodd ef a’i dylwyth i gyd. 54Hwn eto yn ail arwydd a wnaeth yr Iesu ar ôl dyfod o Iwdea i Galilea.

Currently Selected:

Ioan 4: CUG

ማድመቅ

Share

Copy

None

ያደመቋቸው ምንባቦች በሁሉም መሣሪያዎችዎ ላይ እንዲቀመጡ ይፈልጋሉ? ይመዝገቡ ወይም ይግቡ