Luc 22
22
1Yr oedd gŵyl y bara croyw, a elwir Pasg, yn nesau. 2A cheisiai’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion ffordd i’w ladd, canys yr oedd arnynt ofn y bobl. 3Ac aeth Satan i mewn i Iwdas, a elwid Iscariot, a oedd o nifer y deuddeg; 4ac aeth ymaith, ac ymgynghori â’r archoffeiriaid a’r penaethiaid am y ffordd i’w draddodi ef iddynt. 5A bu lawen ganddynt, a chytunasant ag ef i roi arian iddo. 6A chydsyniodd, a cheisiai gyfle i’w draddodi iddynt heb fod tyrfa.
7A daeth dydd y bara croyw, pryd yr oedd rhaid lladd oen y pasg. 8Ac anfonodd Bedr ac Ioan, gan ddywedyd, “Ewch a pharatowch i ni’r pasg i’w fwyta.” 9Dywedasant hwythau wrtho, “Pa le y mynni i ni ei baratoi?” 10Dywedodd yntau wrthynt, “Wele, wedi i chwi fynd i mewn i’r ddinas, fe gyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystên o ddŵr; dilynwch ef i’r tŷ yr â i mewn iddo. 11A chwi ddywedwch wrth ŵr y tŷ, ‘Y mae’r Athro yn dywedyd wrthyt, P’le mae’r llety lle caf fwyta’r pasg gyda’m disgyblion?’ 12A dengys hwnnw i chwi lofft fawr wedi ei threfnu; yno paratowch.” 13Ac aethant ymaith, a chawsant fel y dywedasai wrthynt, a pharatoesant y pasg.
14A phan ddaeth yr awr, eisteddodd wrth y bwrdd, a’r apostolion gydag ef. 15A dywedodd wrthynt, “Mawr y chwenychais fwyta’r pasg hwn gyda chwi cyn dioddef ohonof. 16Canys yr wyf yn dywedyd i chwi nas bwytâf ef ddim eto hyd onis cyflawner ef yn nheyrnas Dduw.” 17A chafodd gwpan, ac wedi diolch fe ddywedodd, “Cymerwch hwn, a rhennwch yn eich plith; 18canys yr wyf yn dywedyd i chwi, nid yfaf o hyn allan o ffrwyth y winwydden hyd oni ddêl teyrnas Dduw.” 19A chymerth fara, ac wedi diolch torrodd ef a’i roddi iddynt, gan ddywedyd, “Hwn yw fy nghorff [yr ydys yn ei roi drosoch chwi; gwnewch hyn er cof amdanaf i.” 20A’r cwpan yr un modd wedi swper, gan ddywedyd, “Y cwpan hwn, y cyfamod newydd ydyw yn fy ngwaed, yr ydys yn ei dywallt drosoch chwi.]#22:20 Ni cheir y geiriau rhwng cromfachau yn rhai o’r llawysgrifau hynaf. 21Eithr dyma law fy mradychwr gyda mi ar y bwrdd. 22Canys Mab y dyn yn wir sy’n myned yn ôl a benderfynwyd; eithr gwae’r dyn hwnnw y bradychir ef trwyddo.” 23A dechreuasant ymholi yn eu plith eu hunain pwy ohonynt tybed oedd yr un a oedd ar fedr gwneuthur hyn. 24A bu ymryson hefyd yn eu plith pwy ohonynt a gyfrifid ei fod yn fwyaf. 25Dywedodd yntau wrthynt, “Y mae brenhinoedd y cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a gelwir y rhai sy’n awdurdodi arnynt yn gymwynaswyr. 26Nid felly chwychwi; ond bydded y mwyaf yn eich plith megis yr ieuangaf, a’r arweinydd megis y gwas. 27Canys pwy sydd fwyaf, yr un sydd wrth y bwrdd ai’r un sy’n gweini? Onid yr un sydd wrth y bwrdd? Ond yr wyf i yn eich mysg chwi fel yr un sy’n gweini. 28Chwi yw’r rhai sydd wedi aros gyda mi yn fy mhrofedigaethau; 29ac megis y trefnodd fy Nhad i mi deyrnas, yr wyf innau yn trefnu i chwi 30gael bwyta#22:30 Neu ac yr wyf i yn trefnu teyrnas i chwi, megis y trefnodd fy Nhad i minnau, i chwi gael bwyta ac yfed wrth fy mwrdd yn fy nheyrnas, a chael eistedd ar orseddau a barnu deuddeg llwyth yr Israel. 31Simon, Simon, wele fe’ch mynnodd Satan chwi i’ch nithio fel gwenith; 32ond gweddïais i drosot ti na fethai dy ffydd di. A thithau, wedi iti droi, cynnal dy frodyr.” 33Dywedodd yntau wrtho, “Arglwydd, gyda thi parod wyf i fynd i garchar ac i farwolaeth.” 34Dywedodd yntau, “Meddaf i ti, Pedr, ni chân y ceiliog heddiw nes i ti wadu deirgwaith dy fod yn f’adnabod.” 35A dywedodd wrthynt, “Pan anfonais chwi heb bwrs na chod nac esgidiau, a fu arnoch eisiau dim?” Dywedasant hwythau, “Naddo ddim.” 36Dywedodd wrthynt, “Ond yn awr yr hwn sydd ganddo bwrs, cymered ef, a’r un modd god hefyd; a’r hwn sydd heb yr un, gwerthed ei fantell a phryned gleddyf. 37Canys yr wyf yn dywedyd i chwi fod yn rhaid cyflawni’r ysgrythur hon ynof i: A chyda throseddwyr y cyfrifwyd ef. Oes, y mae cyflawniad i’r gair amdanaf i.” 38Dywedasant hwythau, “Arglwydd, dyma ddau gleddyf.” Dywedodd yntau wrthynt, “Digon yw.”
39Ac aeth allan, a myned yn ôl ei arfer i Fynydd yr Olewydd; a dilynodd ei ddisgyblion ef. 40Ac wedi dyfod i’r fan, fe ddywedodd wrthynt, “Gweddïwch nad eloch i demtasiwn.” 41Ac ymneilltuodd ef oddi wrthynt tuag ergyd carreg, ac wedi penlinio gweddïai 42gan ddywedyd, “Dad, os mynni, tro heibio’r cwpan hwn oddi wrthyf; eithr nid fy ewyllys i a wneler, ond yr eiddot ti.” 43[Ac ymddangosodd iddo angel o’r nef, yn ei nerthu. 44Ac aeth yn gyfyng arno, a gweddïai’n ddyfalach; ac yr oedd ei chwys fel dafnau gwaed yn disgyn ar y ddaear.]#22:44 Ni cheir y geiriau sydd rhwng cromfachau mewn rhai o’r llawysgrifau hynaf. 45Ac wedi iddo godi o’i weddi, aeth at y disgyblion, a chafodd hwynt yn cysgu gan dristwch; 46a dywedodd wrthynt, “Paham y cysgwch? Codwch a gweddïwch nad eloch i demtasiwn.” 47Ac ef eto’n llefaru dyma dyrfa, a’r hwn a elwid Iwdas, un o’r deuddeg, oedd yn eu harwain, a dynesodd at yr Iesu i’w gusanu. 48A dywedodd Iesu wrtho, “Iwdas, ai â chusan yr wyt yn bradychu Mab y dyn?” 49A phan welodd y rhai o’i gylch y peth oedd ar ddyfod, dywedasant, “Arglwydd, a ydym i daro â chleddyf?” 50A thrawodd rhyw un ohonynt was yr archoffeiriad, a thorri ymaith ei glust ddehau. 51Atebodd yr Iesu, “Caniatewch gymaint â hyn”; a chyffyrddodd â’i glust, ac iachaodd ef. 52A dywedodd Iesu wrth y rhai a ddaethai yn ei erbyn, yr archoffeiriaid a phenaethiaid y deml a’r henuriaid, “Ai megis yn erbyn lleidr y daethoch allan, gyda chleddyfau a phastynau? 53A mi beunydd gyda chwi yn y deml, nid estynasoch eich dwylo yn fy erbyn; ond hon yw eich awr chwi, a’r tywyllwch sydd mewn awdurdod.”
54Ac wedi ei ddal, aethant ag ef ai ddwyn i mewn i dŷ’r archoffeiriad. Yr oedd Pedr yn dilyn o bell. 55A chyneuodd rhai dân yn y cyntedd ac eistedd gyda’i, gilydd, ac eisteddai Pedr yn eu plith. 56A phan welodd rhyw forwyn ef yn eistedd yn y golau, craffodd arno, a dywedodd, “Yr oedd hwn hefyd gydag ef.” 57Gwadodd yntau, gan ddywedyd, “Nis adwaen ef, wraig.” 58Ac ymhen ychydig un arall a’i gwelodd, ac eb ef, “Yr wyt tithau yn un ohonynt.” Ebe Pedr, “Nac ydwyf, ddyn.” 59Ac ar ôl tuag awr o ysbaid, rhywun arall a ddechreuodd daeru, gan ddywedyd, “Ar fy ngwir, yr oedd hwn gydag ef; achos Galilead yw.” 60Dywedodd Pedr, “Ddyn, ni wn i beth yr wyt yn ei ddywedyd.” Ac ar unwaith, ac ef eto’n llefaru, canodd y ceiliog. 61A throes yr Arglwydd, ac edrychodd ar Bedr; a chofiodd Pedr air yr Arglwydd, ddywedyd ohono wrtho, “Cyn canu o’r ceiliog heddiw, ti a’m gwedi deirgwaith.” 62Ac aeth allan, ac wylodd yn chwerw. 63A’r gwŷr a oedd yn ei ddal ef a’i gwatwarai a’i guro; 64ac wedi ei fygydu holent ef, gan ddywedyd, “Proffwyda! Pwy yw’r un a’th drawodd?” 65A llawer o gableddau eraill a lefarent yn ei erbyn.
66A phan aeth hi yn ddydd, ymgynullodd henuriaid y bobl, archoffeiriaid ac ysgrifenyddion, a dygasant ef gerbron eu cyfarfod, 67gan ddywedyd, “Os y Crist ydwyt ti, dywed i ni.” A dywedodd wrthynt, “Os dywedaf i chwi, ni chredwch; 68ac os gofynnaf gwestiwn, nid atebwch. 69Ond o hyn allan bydd Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw gallu Duw.”
70A dywedasant oll, “Mab Duw ynteu, ydwyt ti?” Ebe yntau wrthynt, “Dywedwch chwi fy mod.” 71Dywedasant hwythau, “Pa raid i ni mwy wrth dystiolaeth? Canys clywsom ein hunain o’i enau ef.”
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945