Salmau 15

15
SALM 15
Gwestai’r Arglwydd
Stuttgart 87.87
1Pwy gaiff ganiatâd i aros
Yn dy babell di, fy Nuw?
Yn dy fynydd sanctaidd, Arglwydd,
Pwy gaiff ganiatâd i fyw?
2-3aUn sy’n byw yn gywir, onest,
Gwneud cyfiawnder ar ei daith,
Nad oes malais ar ei dafod,
Na wna ddrwg i’w gyfaill chwaith.
3b-4aUn nad ydyw’n goddef enllib
Am gymydog, ac sy’n byw
I ddirmygu yr ysgymun,
Parchu’r rhai sy’n ofni Duw.
4b-5Un sy’n cadw’r llw a dyngodd,
Llog ar arian byth ni fyn,
Nad yw’n twyllo y diniwed,
Ni symudir a wna hyn.

المحددات الحالية:

Salmau 15: SCN

تمييز النص

شارك

نسخ

None

هل تريد حفظ أبرز أعمالك على جميع أجهزتك؟ قم بالتسجيل أو تسجيل الدخول