Marc 10:35-45

Marc 10:35-45 DAW

Daeth Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, at Iesu a dweud wrtho, “Athro, rydyn ni eisiau i ti wneud rhywbeth arbennig droson ni.” Gofynnodd Iesu iddyn nhw beth oedd hynny. Atebodd y ddau, “Gad i ni ein dau gael eistedd gyda thi yn dy ogoniant, un ar dy law dde ac un ar dy law chwith.” Dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Dydych chi ddim yn gwybod beth rydych chi'n ei ofyn. Allwch chi yfed y cwpan rydw i'n ei yfed, neu gael eich bedyddio â'r bedydd a gefais i?” Atebon nhw, “Gallwn.” Dwedodd Iesu, “Cewch chi yfed o'r un cwpan â minnau, a chewch eich bedyddio â'r un bedydd â minnau, ond ynglŷn ag eistedd ar fy llaw dde neu ar fy llaw chwith, does gen i mo'r hawl i'w roi; mae'n perthyn i'r rhai y trefnwyd ar eu cyfer.” Pan glywon nhw'r hanes digiodd y disgyblion eraill wrth Iago ac Ioan. Galwodd Iesu nhw i gyd ato a dwedodd, “Rydych chi'n gwybod fod y rhai sy'n cael eu hystyried yn llywodraethwyr ar y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnyn nhw, a bod eu gwŷr mawr mewn awdurdod drostynt. Ond rydych chi'n wahanol. Rhaid i'r un sy am fod yn fawr yn eich plith fod yn was i chi, a rhaid i'r un sy am fod yn gyntaf fod yn gaethwas i bawb. Daeth Mab y Dyn i roi gwasanaeth, nid i'w dderbyn, ac i roi ei fywyd yn bridwerth dros lawer o bobl.”