Marc 10
10
10. IESU YN AGOR CALONNAU
Dysgeidiaeth ynglŷn ag Ysgariad (Marc 10:1-12)
1-12Wedi gadael Galilea daeth Iesu a'i ddisgyblion dros Afon Iorddonen i Jwdea. Daeth llu o bobl ato, ac yn ôl ei arfer aeth ymlaen i'w dysgu. Daeth nifer o Phariseaid ato i'w brofi a gofyn iddo a oedd yn gyfreithlon i ddyn ysgaru ei wraig. Atebodd Iesu drwy ofyn, “Beth orchmynnodd Moses i chi wneud?” Atebon nhw, “Rhoddodd Moses ganiatâd i ysgrifennu llythyr er mwyn ysgaru.” Dwedodd Iesu, “Do, am eich bod chi mor anodd. Pan greodd Duw y byd, fe greodd wryw a benyw. Oherwydd hyn bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam er mwyn glynu wrth ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd. Felly, nid dau ar wahân fyddan nhw mwyach ond un, ac ni ddylai neb wahanu'r rhai a gysylltodd Duw.” Ar ôl iddyn nhw gyrraedd y tŷ, gofynnodd y disgyblion iddo ynglŷn â hyn. Dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Os ydy dyn yn ysgaru ei wraig a phriodi un arall, mae hwnnw'n pechu; ac os bydd gwraig yn ysgaru ei gŵr ac ail briodi, mae hithau'n pechu hefyd.”
Bendithio Plant Bach (Marc 10:13-16)
13-16Daeth y bobl â phlant at Iesu er mwyn iddo roi ei law arnynt, ond ceryddodd y disgyblion nhw. Digiodd Iesu pan welodd hyn a dwedodd wrth y disgyblion, “Gadewch i'r plant ddod ataf fi; peidiwch â'u rhwystro oherwydd mae teyrnas Dduw yn perthyn i rai fel nhw. Credwch fi, ni chaiff neb fynd i mewn i deyrnas Dduw os nad ydy e'n ei derbyn hi fel plentyn.” Yna cofleidiodd nhw a dododd ei ddwylo arnynt a'u bendithio.
Y Dyn Cyfoethog (Marc 10:17-31)
17-31Pan oedd Iesu ar fin ail‐gychwyn ar ei daith, rhedodd rhyw ddyn ato a phenlinio o'i flaen a gofyn, “Athro da, beth sy raid i mi wneud er mwyn cael bywyd tragwyddol?” Atebodd Iesu, “Pam wyt ti'n fy ngalw i yn dda, oherwydd dim ond Duw sy'n dda. Rwyt ti'n gwybod y gorchmynion: ‘Paid â lladd, paid â godinebu, paid â lladrata, paid â rhoi cam‐dystiolaeth, paid â thwyllo, parcha dy dad a'th fam.’ ” Dwedodd y dyn, “Athro, rydw i wedi cadw at y gorchmynion hyn o'm plentyndod.” Edrychodd Iesu arno a'i hoffi, a dwedodd wrtho, “Rhaid i ti wneud un peth arall; dos, a gwerth bopeth sy gennyt, a rho'r arian i'r tlodion, oherwydd fe gei di drysor yn y nef, a thyrd, dilyn fi.” Trodd y dyn yn welw oherwydd roedd yn gyfoethog iawn ac aeth i ffwrdd yn drist.
Edrychodd Iesu o amgylch a dwedodd wrth ei ddisgyblion, “Fe fydd hi'n anodd i rai cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw!” Rhyfeddodd y disgyblion pan glywson nhw hyn a dwedodd Iesu wrthyn nhw eto, “Blant, mor anodd ydy mynd i mewn i deyrnas Dduw! Mae'n haws i gamel fynd drwy grau nodwydd nag i ddyn cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw ond mae popeth yn bosibl i Dduw.” Roedd y disgyblion wedi rhyfeddu fwy byth a dwedon nhw wrth ei gilydd, “Pwy felly all gael ei achub?” Edrychodd Iesu arnyn nhw a dwedodd, “Dydy'r hyn sy'n amhosibl i bobl ddim yn amhosibl i Dduw.” Dwedodd Pedr wrtho, “Rydyn ni wedi gadael popeth ac wedi dy ddilyn di.” Atebodd Iesu, “Rydw i'n dweud wrthych chi bod y sawl a adawodd dŷ neu frodyr neu chwiorydd neu fam neu dad neu blant neu diroedd, er fy mwyn i, ac er mwyn y Newyddion Da, yn derbyn ganwaith cymaint o ran tai a brodyr a chwiorydd a mamau a phlant a thiroedd, a hefyd erledigaethau, ac yn yr oes sy'n dod, fywyd tragwyddol. Ond bydd llawer o'r rhai cyntaf yn olaf, a'r rhai olaf yn gyntaf.”
Iesu'n sôn am ei Farwolaeth a'i Atgyfodiad am y Trydydd Tro (Marc 10:32-34)
32-34Roedd Iesu a'i ddisgyblion ar y ffordd i Jerwsalem. Roedd Iesu'n cerdded ar y blaen, ac roedd ofn ar y rhai oedd yn dilyn. Unwaith eto galwodd ef y Deuddeg ato a dechreuodd sôn wrthyn nhw am y pethau fyddai'n digwydd iddo. “Dyma ni ar y ffordd i Jerwsalem. Caiff Mab y Dyn ei roi i'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion; byddan nhw'n ei gondemnio i farwolaeth, a'i roi yn nwylo dynion dieithr. Caiff ei watwar, poerir arno, ei chwipio a'i ladd, ond ar ôl tri diwrnod, bydd yn atgyfodi.”
Cais Iago ac Ioan (Marc 10:35-45)
35-45Daeth Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, at Iesu a dweud wrtho, “Athro, rydyn ni eisiau i ti wneud rhywbeth arbennig droson ni.” Gofynnodd Iesu iddyn nhw beth oedd hynny. Atebodd y ddau, “Gad i ni ein dau gael eistedd gyda thi yn dy ogoniant, un ar dy law dde ac un ar dy law chwith.” Dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Dydych chi ddim yn gwybod beth rydych chi'n ei ofyn. Allwch chi yfed y cwpan rydw i'n ei yfed, neu gael eich bedyddio â'r bedydd a gefais i?” Atebon nhw, “Gallwn.” Dwedodd Iesu, “Cewch chi yfed o'r un cwpan â minnau, a chewch eich bedyddio â'r un bedydd â minnau, ond ynglŷn ag eistedd ar fy llaw dde neu ar fy llaw chwith, does gen i mo'r hawl i'w roi; mae'n perthyn i'r rhai y trefnwyd ar eu cyfer.” Pan glywon nhw'r hanes digiodd y disgyblion eraill wrth Iago ac Ioan. Galwodd Iesu nhw i gyd ato a dwedodd, “Rydych chi'n gwybod fod y rhai sy'n cael eu hystyried yn llywodraethwyr ar y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnyn nhw, a bod eu gwŷr mawr mewn awdurdod drostynt. Ond rydych chi'n wahanol. Rhaid i'r un sy am fod yn fawr yn eich plith fod yn was i chi, a rhaid i'r un sy am fod yn gyntaf fod yn gaethwas i bawb. Daeth Mab y Dyn i roi gwasanaeth, nid i'w dderbyn, ac i roi ei fywyd yn bridwerth dros lawer o bobl.”
Iacháu Bartimeus Ddall (Marc 10:46-52)
46-52Wrth i Iesu a'i ddisgyblion ymadael â Jericho, gwelson nhw ddyn dall o'r enw Bartimeus, mab Timeus, yn eistedd ar ymyl y ffordd yn cardota. Pan glywodd ef mai Iesu o Nasareth oedd yno, dechreuodd weiddi, “Iesu, Fab Dafydd, trugarha wrthyf.” Roedd y bobl o'i amgylch yn ei geryddu gan ddweud wrtho dawelu; ond roedd e'n mynnu gweiddi'n uwch, “Fab Dafydd, trugarha wrthyf.” Safodd Iesu a dweud, “Galwch ef yma.” Dwedodd rhai o'r dyrfa wrth y dyn dall, “Cod ar dy draed, mae e'n galw arnat ti.” Taflodd y dyn dall ei fantell i ffwrdd a neidiodd i fyny. Ar ôl ei gyfarch, gofynnodd Iesu iddo, “Beth wyt ti am i mi wneud i ti?” Atebodd y dyn dall yn union, “Rabbwni, cael fy ngolwg yn ôl.” Dwedodd Iesu wrtho, “Dos ar dy ffordd, mae dy ffydd wedi dy wella di.” Yn y man, cafodd y dyn ei olwg yn ôl a dilynodd Iesu ar hyd y ffordd.
المحددات الحالية:
Marc 10: DAW
تمييز النص
شارك
نسخ
هل تريد حفظ أبرز أعمالك على جميع أجهزتك؟ قم بالتسجيل أو تسجيل الدخول
© Mudiad Addysg Gristinogol Cymru 1990
© Christian Education Movement Wales 1990