Marc 10:1-12

Marc 10:1-12 DAW

Wedi gadael Galilea daeth Iesu a'i ddisgyblion dros Afon Iorddonen i Jwdea. Daeth llu o bobl ato, ac yn ôl ei arfer aeth ymlaen i'w dysgu. Daeth nifer o Phariseaid ato i'w brofi a gofyn iddo a oedd yn gyfreithlon i ddyn ysgaru ei wraig. Atebodd Iesu drwy ofyn, “Beth orchmynnodd Moses i chi wneud?” Atebon nhw, “Rhoddodd Moses ganiatâd i ysgrifennu llythyr er mwyn ysgaru.” Dwedodd Iesu, “Do, am eich bod chi mor anodd. Pan greodd Duw y byd, fe greodd wryw a benyw. Oherwydd hyn bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam er mwyn glynu wrth ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd. Felly, nid dau ar wahân fyddan nhw mwyach ond un, ac ni ddylai neb wahanu'r rhai a gysylltodd Duw.” Ar ôl iddyn nhw gyrraedd y tŷ, gofynnodd y disgyblion iddo ynglŷn â hyn. Dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Os ydy dyn yn ysgaru ei wraig a phriodi un arall, mae hwnnw'n pechu; ac os bydd gwraig yn ysgaru ei gŵr ac ail briodi, mae hithau'n pechu hefyd.”