Ioan 7
7
1Ac ar ôl hyn tramwyai’r Iesu yng Ngalilea, canys ni fynnai dramwy yn Iwdea, am fod yr Iddewon#7:1 Neu: pobl Iwdea. yn ceisio ei ladd, 2ac yr oedd gŵyl yr Iddewon yn agos, gŵyl y pebyll. 3Medd ei frodyr felly wrtho: “Cerdda oddiyma a dos ymaith i Iwdea, er mwyn i’th ddisgyblion hefyd weled dy weithredoedd yr wyt yn eu gwneuthur, 4canys nid oes neb yn gwneuthur dim yn y dirgel, ag yntau yn ceisio bod yn gyhoedd. Os wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn, dangos dy hun yn amlwg i’r byd,” 5— oherwydd nid oedd ei frodyr chwaith yn credu ynddo. 6Medd yr Iesu felly wrthynt: “Ni ddaeth fy adeg i eto, ond y mae’ch adeg chwi bob amser yn gyfleus. 7Ni all y byd eich cashau chwi, ond y mae’n fy nghashau i am fy mod i’n tystio amdano fod ei weithredoedd yn ddrwg. 8Ewch chwi i fyny i’r ŵyl, nid af i yn awr i’r ŵyl yma, am nad yw’n llawn bryd i mi eto.” 9Wedi dywedyd hyn wrthynt, arhosodd yng Ngalilea, 10ond ar ôl i’w frodyr fyned i fyny i’r ŵyl, yna aeth yntau i fyny hefyd, nid yn agored ond yn ddirgel, megis. 11Chwiliai’r Iddewon felly amdano yn yr ŵyl, ac meddent hwy: “Ple mae’r dyn?” 12Ac yr oedd cryn siarad yn ei gylch ymhlith y tyrfaoedd a rhai’n dywedyd: “Dyn da ydyw,” ac eraill yn dywedyd: “Nage, ond camarwain y bobl y mae;” 13ond er hynny ni siaradai neb ar gyhoedd amdano rhag ofn yr Iddewon.
14A phan oedd yr ŵyl ar ei chanol, aeth Iesu i fyny i’r deml a dechreuodd ddysgu. 15Felly synnai’r Iddewon, ac meddent hwy: “Pa fodd y mae hwn yn medru llên ag yntau heb fod dan addysg?”
16Atebodd yr Iesu iddynt a dywedodd: “Nid eiddof i fy nysgeidiaeth i, ond eiddo’r hwn a’m hanfonodd i. 17Os myn neb wneuthur ei ewyllys ef, daw i wybod am y ddysgeidiaeth, ai o Dduw y mae ai myfi sydd yn siarad ohonof fy hun. 18Y mae’r hwn sy’n siarad ohono’i hun yn ceisio gogoniant personol, ond y neb sy’n ceisio gogoniant yr hwn a’i hanfonodd, y mae hwnnw’n gywir ac nid oes anwiredd ynddo. 19Oni roes Moesen y gyfraith i chwi? Ac nid oes neb ohonoch yn gwneuthur y gyfraith. Paham y ceisiwch fy lladd?” 20Atebodd y dyrfa: “Y mae rhyw gythraul arnat. Pwy sy’n ceisio dy ladd?” 21Atebodd Iesu a dywedodd wrthynt: “Un weithred a wneuthum ac yr ydych oll yn synnu. 22Am hyn y rhoes Moesen i chwi yr enwaediad — nid bod hynny oddiwrth Foesen ond oddiwrth y tadau — a byddwch yn enwaedu ar ddyn ar y Sabath. 23Os caiff dyn enwaediad ar y Sabath, a chyfraith Moesen heb ei thorri, a ydych yn ddig wrthyf i am fy mod wedi gwneuthur dyn cyfan yn iach ar y Sabath? 24Na fernwch wrth yr olwg, ond bernwch y farn gyfiawn.” 25Meddai rhai o bobl Caersalem felly: “Onid hwn y maent yn ceisio ei ladd? 26A dyma yntau’n siarad yn agored, ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho. Tybed bod y penaethiaid yn gwybod yn wir mai hwn yw’r Eneiniog? 27Ond gwyddom ni am hwn, o ba le y mae, ond am yr Eneiniog pan ddêl, ni ŵyr neb o ba le y mae.” 28Felly gwaeddodd yr Iesu, wrth ddysgu yn y deml, a dywedodd: “Myfi a adwaenoch a gwyddoch o ba le yr wyf. Ac ohonof fy hunan ni ddeuthum, ond y mae un gwirioneddol a’m hanfonodd i, yr hwn ni wyddoch chwi amdano. 29Yr wyf i yn gwybod amdano, mai oddiwrtho ef yr ydwyf, ac mai ef a’m hanfonodd.” 30Felly ceisient ei ddal, ond ni roddodd neb ei law arno, canys ni ddaethai ei adeg ef eto. 31Ond o’r dyrfa credodd llawer ynddo, a dywedasant: “A wna’r Eneiniog pan ddêl fwy o arwyddion nag a wnaeth hwn?” 32Clywodd y Phariseaid y dyrfa yn murmur hyn amdano, ac anfonodd y prif offeiriaid a’r Phariseaid swyddogion i’w ddal. 33Meddai’r Iesu felly: “Am ychydig amser eto yr wyf gyda chwi ac yna yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd i. 34Byddwch yn fy ngheisio ac ni’m cewch, a’r lle y byddaf i, ni ellwch chwi ddyfod.” 35Felly meddai’r Iddewon wrth ei gilydd: “I ba le y mae hwn am fyned, na ddeuwn ni o hyd iddo? A ydyw am fyned at y rhai sydd ar wasgar ymhlith y Groegiaid a dysgu’r Groegiaid? 36Beth ydyw’r gair hwn a ddywedodd, — ‘Byddwch yn fy ngheisio ac ni’m cewch, a’r lle y byddaf i ni ellwch chwi ddyfod’?”
37Ac ar y dydd diwethaf, diwrnod mawr yr ŵyl, safodd yr Iesu a gwaeddodd gan ddywedyd: “Os oes syched ar neb, deued ataf i ac yfed. 38Y neb sy’n credu ynof i, fel y dywed yr adnod, — fe lifa afonydd o ddwfr byw o’i ymysgaroedd.” 39Hyn a ddywedodd am yr ysbryd a dderbyniai’r rhai a gredodd ynddo ef, canys nid oedd Ysbryd eto, am na ogoneddwyd yr Iesu hyd yn hyn. 40A dywedodd rhai o’r dorf a glywodd y geiriau hyn: “Hwn yn wir yw’r proffwyd.” 41Medd eraill: “Hwn yw’r Eneiniog,” ond medd eraill: “Ai o Galilea y daw’r Eneiniog? 42Onid yw’r ysgrythur yn dywedyd mai o had Dafydd ac o Fethlehem, y dref lle yr oedd Dafydd, y daw’r Eneiniog?” 43Felly aeth yn ddwyblaid yn y dyrfa o’i achos. 44A mynnai rhai ohonynt ei ddal, ond ni roes neb ei ddwylo arno. 45Felly daeth y swyddogion at y prif offeiriaid a’r Phariseaid, ac medd y rheiny wrthynt: “Paham na ddaethoch ag ef?” 46Atebodd y swyddogion: “Ni siaradodd dyn erioed fel hyn, fel y mae’r dyn hwn yn siarad.” 47Ac atebodd y Phariseaid iddynt: “A ydych chwithau hefyd wedi eich llithio? 48A oes un o’r arweinwyr wedi credu ynddo, neu o’r Phariseaid? 49Ond am y dorf hon nad yw’n gwybod y gyfraith, y maent dan felltith.” 50Medd Nicodemus wrthynt (a ddaethai ato cyn hynny) ag yntau’n un ohonynt: 51“A ydyw ein cyfraith ni’n barnu dyn heb yn gyntaf wrando arno a gwybod pa beth y mae’n ei wneuthur?” 52Atebasant a dywedasant wrtho: “Nid wyt tithau hefyd o Galilea, a wyt ti? Chwilia a gwêl, nad o Galilea y cyfyd proffwyd.” 53[Ac aethant ymaith, bob un i’w dŷ ei hun.
المحددات الحالية:
Ioan 7: CUG
تمييز النص
شارك
نسخ
هل تريد حفظ أبرز أعمالك على جميع أجهزتك؟ قم بالتسجيل أو تسجيل الدخول
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945