Y Salmau 11
11
SALM XI
Domine confido.
Aml brofedigaethau. Duw yn gwared allan o honynt, ac yn llywodraethu y da a’r drwg.
1Credaf i’r Arglwydd yn ddi-nam:
paham y dwedwch weithian
Wrth f’enaid, hwnt, a hed i’th fryn,
fel wrth aderyn bychan?
2Wele’r annuwiol a’i bwâu,
a’i cawell saethau’n barod,
Am wirioniaid yn llechu’n fain,
i saethu’r rhai’n o gysgod.
3Y seilfain oll i lygredd aeth:
ond beth a wnaeth y gwirion?
4Mae’r Arglwydd yn ei ddinas gref,
fe weryd ef y cyfion.
Yr Arglwydd o’i orseddfa fry
at y tlawd try ei olwg,
Gweithredoedd holl hiliogaeth dyn,
iw lygaid ydyn amlwg.
5Mae’r Arglwydd o’r naturiaeth hon,
prawf gyfion er ymgeledd,
Ond câs yw gan ei enaid fo
ddyn drwg a hoffo wagedd.
6Ar bechaduriaid marwor, tân,
a brwmstan a ddaw’n gawod,
A gwynt tymestlog uchel iawn,
fal dyna iawn wialennod.
7Cans cyfion ydyw’r Arglwydd ner,
cyfiownder mae’n ei garu:
A'i wyneb at yr union try,
a hynny iw ymgleddu.
Цяпер абрана:
Y Salmau 11: SC
Пазнака
Падзяліцца
Капіяваць
Хочаце, каб вашыя адзнакі былі захаваны на ўсіх вашых прыладах? Зарэгіструйцеся або ўвайдзіце
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017