Y Salmau 24
24
SALM XXIV
Domini est terra.
Clod i’r tabernacl, a dangos fod eglwys Dduw yma yn gyffelyb i’r eglwys nefol, a phrophwydo am Ierusalem: cyneddfau y rhai a fydd cyfranogion o’r ddwy.
1Yr Arglwydd piau’r ddaiar lawr,
a’i llownder mawr sy’n eiddo:
Yr Arglwydd biau yr holl fyd,
a’r bobl i gyd sydd ynddo.
2Cans fo roes ei sail hi a’i gwedd
yn rhyfedd uwch y moroedd:
Ac a’i gosododd hi yn lân
yn drigfan uwch llif-ddyfroedd.
3Er hyn: pwy a ddringa yn hy
i gyssegr fry yr Arglwydd?
A phwy a saif, a theilwng wedd,
yngorsedd ei sancteiddrwydd?
4Dyn a llaw lân, a meddwl da,
ac yn ddidraha ei enaid,
Diorwag, ac ni roes un tro
er twyllo’i gyfneseifiaid.
5Gan yr Arglwydd y caiff hwn wlith
ei raslawn fendith helaeth,
A chyfiawnder i bob cyfryw
gan Dduw yr iechydwriaeth.
6Hon sy gan Dduw’n genhedlaeth gref,
a’i ceisiant ef yn effro,
A geisiant d’wyneb, dyma eu maeth,
sef gwir genhedlaeth Iago.
7Derchefwch chwi byrth eich pennau,
a chwithau ddorau bythol,
Cans brenin mawr daw i’ch mewn chwi,
sef pen bri gogoneddol.
8Pwy yw’r brenin hwn gogonedd?
Arglwydd rhyfedd ei allu:
Yr Arglwydd yw, cyfion ei farn,
a chadarn i ryfelu.
9Derchefwch chwi byrth ych pennau,
ehengwch ddorau bythol:
Cans brenin mawr daw i’ch mewn chwi,
teyrn o fri gogonol.
10Pwy meddwch ydyw’r brenin hwn,
a gofiwn ei ogoniant?
Ior y lluoedd yw, brenin hedd,
a gogonedd, a ffyniant.
Цяпер абрана:
Y Salmau 24: SC
Пазнака
Падзяліцца
Капіяваць
Хочаце, каб вашыя адзнакі былі захаваны на ўсіх вашых прыладах? Зарэгіструйцеся або ўвайдзіце
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017