Y Salmau 34
34
SALM XXXIV
Benedicam Domine.
Dafydd wedi diangc rhag Achis, yn moli Duw, drwy roi addysg i ymddiried yn Nuw.
1Diolchaf fi â chalon rwydd,
i’r Arglwydd bob amserau:
Ei foliant ef, a’i wir fawrhâd,
sy’n wastad yn fy ngenau.
2Fy enaid sydd yn bostio’n rhwydd,
o’m Harglwydd, ac o’m perchen:
A phob difalch hynny a glyw,
ac a fydd byw yn llawen.
3Molwch fy Arglwydd gyd â mi,
cydfolwn ni ei enw ef:
4Criais arno yn fy ofn caeth,
a gwrando wnaeth fy ynglef,
5Y sawl a edrych arno ef,
â llewych nef eglurir:
Ni wradwyddir o honynt neb,
a’i hwyneb ni chwilyddir.
6Wele, y truan a roes lef,
a Duw o’r nef yn gwrando
A’i gwaredodd ef o’i holl ddrwg,
a’i waedd oedd amlwg iddo.
7Angel ein Duw a dry yn gylch,
o amgylch pawb a’i hofnant:
Ceidw ef hwynt: a llawer gwell
na chastell yw eu gwarant.
8O profwch, gwelwch, ddaed yw,
yr Arglwydd byw i’r eiddo:
A gwyn ei fyd pob dyn a gred,
roi ei ymddiried yntho.
9Ofnwch Dduw ei holl sainct (heb gel)
a’i gwnel ni bydd pall arnyn:
10Nag eisiau dim sydd dda: er bod,
ar gnawon llewod newyn.
11Chwychwi feibion deuwch yn nes,
gwrandewch hanes ystyriol.
Dowch a dysgaf i chwi yn rhwydd,
ofni yr Arglwydd nefol.
12Y sawl a chwennych fywyd hir,
a gweled gwir ddaioni:
Cae dy enau rhag drwg di bwyll,
a’th safn rhag twyll a gwegi.
13Gwrthod ddrwg, gwna dda: a chais hedd,
hon hyd y diwedd dylyn:
A chadw’r heddwch wedi ei chael,
fal dyna ddiwael destyn.
14Y mae yr Arglwydd a’i olwg
ar y dyn diddrwg cyfion:
A'i glustiau ef o’i lawn wir fodd,
egorodd i’r rhai gwirion.
15Wyneb yr Ion a’i guwch sy dynn,
yn erbyn gweithwyr diffaith:
Y coffa o honynt ef a’i tyrr,
ar fyrr o’r ddaiar ymaith,
16Hawdd y clybu fy Naf o’r nef,
leferydd llef y cyfion:
A thra buan (o’i râd a’i rodd)
y tynnodd o’i trallodion.
17Agos iawn yw ein Duw at gur
y galon bur ddrylliedig:
A da y ceidw ef bob pryd
yr yspryd cystuddiedig.
18Trwch, ie ac aflwyddiannus iawn,
a fydd gwr cyfiawn weithian:
Ei ddrygau oll, Duw oddi fry a i tyn,
a’i try i’r gorau.
19Ceidw ei esgyrn ef ei hun,
o honynt un ni ddryllir:
A drwg a laddo y drwg was,
â ffrwyth ei gas y lleddir.
20Eithr holl wasnaethwyr Duw ei hun,
yr Arglwydd gun a’i gwared:
I’r sawl a’mddiried yntho ef,
ni all llaw gref mo’r niwed.
Цяпер абрана:
Y Salmau 34: SC
Пазнака
Падзяліцца
Капіяваць
Хочаце, каб вашыя адзнакі былі захаваны на ўсіх вашых прыладах? Зарэгіструйцеся або ўвайдзіце
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017