Y Salmau 36

36
SALM XXXVI
Dixit miustus.
Cwyno rhag y drygionus, eithr (drwy gydnabod daioni Duw) y mae efe yn ymgysuro.
1Wrth gamwedd dyn annuwiol sur
mae’n eglur yn fy nghalon,
Nad oes ofn Duw, na’i farn,
na’i ddrwg
o flaen ei olwg trowsion.
2Mae yn cyd ddwyn â’i fai ei hun,
ni wyl mo’i wrthun drosedd:
Nes cael yn eglur i’r holl fyd
ei gâs wyd, a’i anwiredd.
3Os ei ymadrodd, mae heb wir,
ei enau dihir hydwyll,
Ni fyn wneuthur dim da ychwaith,
yr adyn diffaith dibwyll.
4Ef yn ei wely ni chais hun,
ond gosod llun ar gelwydd:
Os yn effro, neu yn ei waith,
ni ochel daith annedwydd.
5Dy drugaredd (fy Arglwydd Ion)
sydd hyd eithafon nefoedd:
A'th wirionedd di sydd yn gwau,
hyd y cymylau dyfroedd.
6Dy uniondeb fel mynydd mawr,
dy farn fel llawr yr eigion.
Dy nerth fyth felly a barhâ,
i gadw da, a dynion.
7O mor werth fawr (fy Arglwydd Dduw)
i bawb yw dy drugaredd!
I blant dynion da iawn yw bod
ynghysgod dy adanedd.
8Cyflawn o frasder yw’r ty tau,
lle lenwir hwythau hefyd.
Lle y cânt ddiod gennyt Ion,
o flasus afon hyfryd.
9Gyda thi mae y loywffrwd hon,
a dardd o ffynnon einioes:
A'th deg oleuni, ac â’th râd,
y cawn oleuad eisoes.
10O ystyn etto i barhau,
dy drugareddau tirion:
Ni a’th adwaenom di, a’th ddawn,
i’r rhai sydd uniawn galon.
11O Dduw im’ herbyn i na ddoed,
na ffyrdd, na throed y balchffol,
A llestair attaf, fel na ddaw na gwaith,
na llaw’r annuwiol.
12Felly y syrthiodd gynt, yn wir,
y rhai enwir a’r drygwaith,
Felly gwthiwyd i lawr hwyntwy,
heb godi mwy yr eilwaith.

Цяпер абрана:

Y Salmau 36: SC

Пазнака

Падзяліцца

Капіяваць

None

Хочаце, каб вашыя адзнакі былі захаваны на ўсіх вашых прыладах? Зарэгіструйцеся або ўвайдзіце