Ioan 1
1
RHAGYMADRODD IOAN.
1-5Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a’r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw. Drwyddo ef y gwnaethwyd pob peth, a hebddo ef ni wnaed cymaint ag un crëadur. Ynddo ef yr oedd bywyd, a’r bywyd oedd oleuni dynion. A’r goleuni oedd yn llewyrchu yn y tywyllwch; ond y tywyllwch nis derbyniodd ef.
DOSBARTH I.
Tystiolaeth Ioan y Trochiedydd.
6-9 Gwr, a’i enw Ioan, á ddanfonwyd oddwrth Dduw. Hwn á ddaeth yn dyst i dystiolaethu am y goleuni, fel y credai pawb drwyddo ef. Nid efe ei hun oedd y goleuni, eithr efe á ddaeth i dystiolaethu am y goleuni. Efe oedd y gwir oleuni, yr hwn, gàn ddyfod i’r byd, sydd yn goleuo pob dyn.
10-13Yn y byd yr oedd efe, a’r byd á wnaethwyd drwyddo ef; eto y byd nid adnabu ef. Iddei dir ei hun y daeth, a’i bobl ei hun nis derbyniasant ef; ond i gynnifer ag á’i derbyniasant ef, drwy gredu yn ei enw, y rhoddes efe y fraint o fod yn blant i Dduw; y rhai y mae eu genedigaeth, nid o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gwr, eithr o Dduw.
14-18A’r Gair á ymgnawdolodd, ac á ymdeithiodd yn ein plith ni (a ni á welsom ei ogoniant ef, gogoniant megys yr eiddo uniganedig y Tad) yn llawn rhad a gwirionedd. (Am dano ef y tystiolaethai Ioan, pan lefai, Hwn yw yr un y dywedais am dano, Yr hwn sydd yn dyfod ar fy ol i sydd yn rhagori arnaf fi; canys yr oedd efe o’m blaen i.) O’i gyflawnder ef y derbyniasom ni oll, sef rhad èr mwyn rhad; canys y gyfraith á roddwyd drwy Foses; – y rhad a’r gwirionedd á ddaeth drwy Iesu Grist. Ni welodd neb Dduw erioed; yr uniganedig Fab, yr hwn sydd yn mynwes y Tad, yw yr hwn á’i hysbysodd ef.
19-28A hon yw tystiolaeth Ioan. Pan ddanfonodd yr Iuddewon offeiriaid a Lefiaid, o Gaersalem, i ofyn iddo, Pwy wyt ti? efe á gyfaddefodd, a ni wadodd, ond á gyfaddefodd, gàn ddywedyd, Nid myfi yw y Messia. A hwy á ofynasant iddo, Pwy ynte? Ai Elias wyt ti? Yntau á ddywedodd, Nage. Ai y Proffwyd wyt ti? Yntau á atebodd, Nage. Hwythau á ddywedasant, Dywed ynte pwy wyt ti, fel y rhoddom ateb yn ol i’r rhai a’n danfonasant ni. Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd am danat dy hun? Yntau á atebodd, Myfi yw yr un sydd â’i lef yn cyhoeddi yn y diffeithwch, “Uniawnwch ffordd yr Arglwydd,” fel y dywedodd Isaia y proffwyd. A’r rhai à ddanfonasid oeddynt o’r Phariseaid. A hwy á’i holasant ef yn mhellach, Paham gàn hyny yr wyt ti yn trochi, os nad wyt ti na’r Messia, nac Elias, na’r Proffwyd? Ioan á atebodd, Myfi sydd yn trochi mewn dwfr, ond y mae un yn eich plith chwi, yr hwn nid ydych yn ei adnabod. Efe yw yr hwn sydd yn dyfod àr fy ol i, a’r hwn oedd o’m blaen i, yr hwn nid wyf fi deilwng i ddattod carai ei esgid. Hyn á ddygwyddodd yn Methania, àr yr Iorddonen, lle yr oedd Ioan yn trochi.
29-34Tranoeth, Ioan á ganfu Iesu yn dyfod ato, ac á ddywedodd, Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn dwyn ymaith bechod y byd. Hwn yw Efe am yr hwn y dywedais i, Ar fy ol i y mae gwr yn dyfod, yr hwn sydd yn rhagori arnaf fi; canys yr oedd efe o’m blaen i. A myfi nid adwaenwn ef; eithr fel yr amlygid ef i Israel, i hyny y daethym i gàn drochi mewn dwfr. Ioan á dystiolaethodd yn mhellach, gàn ddywedyd, Mi á welais yr Ysbryd yn disgyn o’r nef, megys colomen, ac yn aros arno ef. O’m rhan i, nid adnabuaswn i ef, oni bai i’r Hwn à’m hanfonodd i drochi mewn dwfr, ddywedyd wrthyf, Ar yr hwn y gwelych yr Ysbryd yn disgyn ac yn aros, hwnw yw yr un sydd yn trochi yn yr Ysbryd Glan. Wedi i mi, gàn hyny, weled hyn, mi á dystiolaethais mai efe yw Mab Duw.
35-42Tranoeth, Ioan, ac efe gyda dau o’i ddysgyblion, á welai Iesu yn myned heibio, ac a ddywedodd, Wele Oen Duw. Y ddau ddysgybl wedi clywed hyn, á ganlynasant Iesu. Ac Iesu á droes, ac á’u gwelodd hwynt yn canlyn, ac á ddywedodd wrthynt, Beth yr ydych yn ei geisio? Hwythau á atebasant, Rabbi (yr hyn sydd yn arwyddocâu Athraw,) pa le yr wyt ti yn trigo? Yntau á atebodd, Deuwch a gwelwch. Hwy á aethant ac á welsant lle yr oedd efe yn trigo; a chàn ei bod yn nghylch y ddegfed awr, hwy á arosasant gydag ef y diwrnod hwnw. Un o’r ddau à ganlynasant Iesu, gwedi iddynt glywed Ioan, oedd Andreas, brawd Simon Pedr. Y cyntaf y cyfarfu efe ag ef, oedd ei frawd ei hun Simon, wrth yr hwn y dywedodd efe, Nyni á gawsom y Messia, (enw cyfystyr â Crist.) Ac efe á’i dyg ef at Iesu. Iesu gwedi edrych arno, á ddywedodd, Ti yw Simon, mab Iona; ti á elwir Cephas, (yr hwn á arwydda yr un peth a Pedr.)
43-51Tranoeth, efe á roddes ei fryd àr fyned i Alilea, a gwedi cyfarfod â Phylip, á ddywedodd wrtho, Canlyn fi. A Phylip oedd o Fethsaida, dinas Andreas a Phedr. Phylip á gyfarfu â Nathanäel, ac á ddywedodd wrtho, Cawsom yr hwn à ddysgrifiwyd gàn Foses yn y gyfraith, a chàn y proffwydi, Iesu, mab Ioseph, o Nasareth. Nathanäel á ddywedodd wrtho, A ddichon dim da ddyfod o Nasareth? Phylip á atebodd, Dyred a gwel. Iesu á ganfu Nathanäel yn dyfod ato, ac á ddywedodd am dano, Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll. Nathanäel á ddywedodd wrtho, Pa fodd yr adwaenost fi? Iesu a atebodd, Mi á’th welais di pan oeddit dàn y ffigysbren, cyn i Phylip dy alw di. Nathanäel gàn ateb, á ddywedodd wrtho ef, Rabbi, ti yw Mab Duw; ti yw brenin Isräel. Iesu á’i hatebodd ef, gàn ddywedyd, Am i mi ddywedyd wrthyt fy mod wedi dy weled di dàn y ffigysbren, yr wyt ti yn credu! Ti á gai weled pethau mwy na hyn. Efe á chwanegodd, Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, Ar ol hyn y gwelwch y nef yn agored, ac angylion Duw yn esgyn oddwrth Fab y Dyn, ac yn disgyn ato ef.
Цяпер абрана:
Ioan 1: CJW
Пазнака
Падзяліцца
Капіяваць
Хочаце, каб вашыя адзнакі былі захаваны на ўсіх вашых прыладах? Зарэгіструйцеся або ўвайдзіце
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.