Luwc 23
23
1-7Ar holl liaws o honynt á gyfodasant, ac á ddygasant Iesu at Bilat: a hwy á’i cyhuddasant ef, gàn ddywedyd, Ni á gawsom hwn yn gwyrdroi y genedl, ac yn gwahardd rhoi teyrnged i Gaisar, gàn alw ei hun yn Fessia Frenin. Yna Pilat gàn ofyn iddo, á ddywedodd, Ti yw Brenin yr Iuddewon? Yntau á atebodd, Yr wyt ti yn dywedyd yn iawn. Pilat á ddywedodd wrth yr archoffeiriaid a’r lliaws, Nid wyf fi yn cael dim bai àr y dyn hwn. Hwythau á aethant yn daerach, gàn chwanegu, Efe á gododd derfysg yn mhlith y bobl, drwy yr athrawiaeth à daenodd efe drwy holl Iuwdea, o Alilea, lle y dechreuodd efe, hyd yma. Pan glywai Pilat hwynt yn son am Alilea, efe á ofynodd, ai Galilead oedd y dyn. A phan wybu efe ei fod yn perthyn i raglawiaeth Herod, efe á’i danfonodd ef at Herod, yr hwn oedd yntau yn Nghaersalem y pryd hwnw.
8-12A da iawn oedd gàn Herod weled Iesu: dyna oedd efe yn ei chwennychu èr ys talm; oblegid iddo glywed llawer am dano, ac yr ydoedd yn gobeithio cael ei weled ef yn gwneuthur rhyw wyrth. Efe á ofynodd iddo, gàn hyny, lawer o holiadau, ond Iesu nid atebodd ddim iddo. Eto yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, y rhai oeddynt bresennol, á’i cyhuddasant ef yn haerllug. Eithr Herod a’i osgorddlu, gwedi iddo ei ddirmygu ef, a, mewn gwawd, ei wisgo ef â gwisg glaerwen, á’i danfonodd ef yn ol at Bilat. Y dydd hwnw yr aeth Pilat a Herod yn gyfeillion; canys buasent o’r blaen mewn gelyniaeth â’u gilydd.
13-25Pilat, wedi galw yn nghyd yr archoffeiriaid, y llywiawdwyr, a’r bobl, á ddywedodd wrthynt, Chwi á ddygasoch y dyn hwn o’m blaen i, fel un à fyddai yn annog y bobl i wrthgil; èr hyny, gwedi i mi ei holi ef yn eich gwydd chwi, ni chefais ef yn euog o’r un o’r pethau yr ydych chwi yn ei gyhuddo ef o honynt. Na Herod chwaith; canys mi á’ch anfonais chwi ato ef. Boed sicr i chwi, gàn hyny, na wnaeth efe ddim yn haeddu marwolaeth. Am hyny, mi á’i ceryddaf ef, ac á’i gollyngaf ymaith. Canys yr oedd yn raid iddo ollwng un yn rydd iddynt àr yr wyl. Yna y llefodd pawb àr unwaith; Ymaith a hwn, a gollwng i ni Farabbas yn rydd. A Barabbas á garcharasid am godi terfysg yn y ddinas, ac am lofruddiaeth. Pilat, yn ewyllysio gollwng Iesu yn rydd, á ymliwiai drachefn. Hwythau á waeddasant, gàn ddywedyd, Croeshoelia! croeshoelia ef! Efe á ddywedodd drachefn y drydedd waith, Paham? Pa ddrwg á wnaeth hwn? Nid wyf yn ei gael yn euog o un angeufai; mi á’i ceryddaf ef, gàn hyny, ac á’i gollyngaf yn rydd. Ond hwy á ddaliasant ati, gàn ddirofyn â llefau uchel, àr iddo gael ei groeshoelio. O’r diwedd eu bloeddiau hwy, a’r eiddo yr archoffeiriaid, á orfuant; a Philat á gyhoeddodd ddedfryd, mai fel yr oeddynt yn ewyllysio, y byddai. Yn ganlynol, efe á ollyngodd yn rydd iddynt yr hwn á garcharasid am derfysg a llofruddiaeth, yr hwn á ofynasant, ac á draddododd Iesu iddeu hewyllys hwynt.
26-32Fel yr oeddynt yn ei arwain ef ymaith, hwy á ddaliasant un Simon, Cyreniad, yn dyfod o’r wlad, ac â ddodasant y groes arno ef, iddei dwyn àr ol Iesu. Ac yr oedd yn ei ganlyn ef liaws mawr o bobl, yn mhlith y rhai yr oedd gwragedd lawer, y rhai oedd yn cwynfan ac yn galaru o’i blegid ef. Eithr Iesu, gwedi troi atynt, á ddywedodd, Merched Caersalem, nac wylwch o’m plegid i, eithr wylwch o’ch plegid eich hunain, ac oblegid eich plant: canys y mae y dyddiau yn dyfod, yn y rhai y dywedant, Gwỳn eu byd y rhai anmhlantadwy, y crothau ni eppiliasant, a’r brònau ni roisant sugn! Yna y gwaeddant àr y mynyddoedd, Syrthiwch arnom; ac àr y bryniau, Cuddiwch ni: canys os gwneir hyn â’r pren îr, pa beth á wneir â’r crin? Ac arweinwyd gydag ef hefyd ddau ddrygweithredwr iddeu dienyddu.
33-38Pan ddaethant i’r lle à elwir Calfaria, yno yr hoeliasant ef wrth groes, a’r drygweithredwyr hefyd; un àr y llaw ddëau, y llall àr yr aswy. Ac Iesu á ddywedodd, O Dad, maddau iddynt, canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. A hwy á rànasant ei ddillad ef wrth goelbren. Tra yr oedd y bobl yn sefyll i syllu, hyd yn nod eu pènaethiaid á ymunent â hwy iddei wátwar ef, a dywedyd, Hwn á waredodd ereill; gwareded ei hun, os efe yw y Messia, etholedig Duw. Y milwyr hefyd á’i gwatwarasant ef, gàn ddyfod a chynnyg iddo winegr, a dywedyd; Os ti yw Brenin yr Iuddewon, gwared dy hun. Yr oedd hefyd graifft uwch ei ben ef yn Roeg, Lladin, a Hebraeg, Hwn yw Brenin yr Iuddewon.
39-43Ac un o’r drygweithredwyr oedd yn dyoddef gydag ef, á’i cablodd ef, gàn ddywedyd, Os tydi yw y Messia, gwared dy hun a ninnau. Y llall gàn ei geryddu ef, á atebodd, A oes arnat ddim ofn Duw, gàn dy fod yn dyoddef yr un gosbedigaeth? A nyni yn wir yn gyfiawn; canys yr ydym yn derbyn yr hyn à haeddodd ein gweithredoedd; eithr hwn ni wnaeth ddim allan o’i le. Ac efe á dywedodd wrth Iesu, Arglwydd, cofia fi, pan ddelych i’th deyrnas. Iesu á atebodd, Yn wir meddaf i ti, Heddyw y byddi gyda mi yn ngwynfa.
44-49Ac yn nghylch y chwechfed awr, yr oedd tywyllwch dros yr holl dir, yr hwn á barâodd hyd y nawfed. Yr haul á dywyllwyd, a llen y deml á rwygwyd yn ei chanol. Ac Iesu á ddywedodd â llef uchel, O Dad, i’th ddwylaw di y gorchymynaf fy ysbryd; a gwedi iddo ddywedyd hyn, efe á drengodd. Yna y canwriad, pan welai y peth à wnaethwyd, á roes ogoniant i Dduw, gàn ddywedyd, Yn wir, yr oedd hwn yn wr cyfiawn. A’r holl bobl oedd yn bresennol àr y golygawd hwn, ac á welsant yr hyn à gymerasai le, á ddychwelasant, gàn guro eu dwyfrònau. A’i holl gydnabod ef, a’r gwragedd à’i canlynasent ef o Alilea, gàn sefyll o hirbell, á welsant y pethau hyn.
DOSBARTH XV.
Y Adgyfodiad.
50-56Ac o Arimathea, dinas yn Iuwdea, yr oedd seneddwr a’i enw Ioseph, gŵr da a chyfiawn, yr hwn ni chydsyniasai â phenderfyniadau a gweithrediadau y lleill, a’r hwn oedd yntau hefyd yn dysgwyl am Deyrnasiad Duw. Hwn á aeth at Bilat, ac á ofynodd gorff Iesu. A gwedi iddo ei dỳnu i lawr, efe á’i hamdöes mewn llian main, ac ái dododd mewn tomawd à naddesid mewn càreg, yn yr hwn ni roddasid dyn erioed. A’r dydd hwnw oedd ddarparwyl, a’r Seibiaeth oedd yn nesâu. A’r gwragedd à ddaethent gydag Iesu o Alilea, á ddylynasant Ioseph, á welsant y tomawd, a pha fodd y dodwyd y corff. Pan ddychwelasant, hwy á barotoisant beraroglau ac enaint, ac yna á orphwysasant àr y Seibiaeth, yn ol y gorchymyn.
Цяпер абрана:
Luwc 23: CJW
Пазнака
Падзяліцца
Капіяваць
Хочаце, каб вашыя адзнакі былі захаваны на ўсіх вашых прыладах? Зарэгіструйцеся або ўвайдзіце
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.