Hosea 3
3
PEN. III.—
1A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf,
Dos eto, car wraig;
Hoff ganddi ddrygioni,#hoff gan gyfaill car wraig odinebus, yr hon a gar ddrygioni. Syr. ac yn odinebus:
Yn ol cariad yr Arglwydd at feibion Israel;
A hwythau yn edrych at dduwiau dyeithr;
Ac yn hoffi teisenau grawn#sudd grawn. LXX.
2A mi a’i prynais hi i mi;
Am bymtheg sicl o arian:
Am homer#corus. Vulg. o haidd a lethec#haner llestraid, llestraid o win. LXX. o haidd.
3A mi a ddywedais wrthi,
Aros#yr aroswch. Syr. dysgwyl wrthyf. parha i mi. am danaf lawer o ddyddiau;
Ac na fydd#na fyddwch. Syr. i wr:
A minau hefyd a fyddaf#a’th ddysgwyliaf dithau. Vulg. i tithau.
4Canys llawer o ddyddiau yr erys plant Israel;
Heb frenin ac heb dywysog;
Ac heb aberth, ac heb ddelw;#colofn. Syr., Vulg. allor. LXX.
Ac heb ephod#offeiriadaeth. LXX. a theraphim.#pethau eglur. LXX. arian at arogledd. Syr.
5Gwedi hyny y dychwel plant Israel;
Ac y ceisiant yr Arglwydd eu Duw;
A Dafydd eu brenin:
Ac a frysiant#synant, cynhyrfir hwynt wrth. LXX. at yr Arglwydd ac at ei ddaioni#ei bethau da ef. LXX. ef
Yn y dyddiau diweddaf.#mewn dyddiau ar ol hyn, dyddiau diweddarach.
Избрани в момента:
Hosea 3: PBJD
Маркирай стих
Споделяне
Копиране
Искате ли вашите акценти да бъдат запазени на всички ваши устройства? Регистрирайте се или влезте
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.