YouVersion Logo
Search Icon

Popular Bible Verses from Salmau 57

Duw, ymddyrcha uwch y nefoedd, Bydded dy ogoniant mawr Yn tywynu mewn disgleirdeb Drwy ororau daear laŵr. NODIADAU. Cyttuna beirniaid yn gyffredin i gyfieithu teitl y salm hon, a’r ddwy ganlynol, sef Al‐taschith , i ‘Na ddistrywia ef.’ Yr ogof yr oedd Dafydd ynddi y tro hwn oedd yr un yn anialwch Engedi (1 Sam xxiv. 14); ac nid ogof Adulam. Tra yr oedd efe a’i wŷr yn ymguddio yno, daeth Saul, a thair mil o wŷr gydag ef, i geisio Dafydd. Aeth Saul i mewn i gẁr arall o’r ogof i orphwys, a chysgodd yno — efe a’i holl wŷr. Annogai gwŷr Dafydd ef yn daer i achub y cyfleusdra, a’i ladd ef; ond dychrynai ef rhag y fath weithred:— ond torodd gẁr mantell Saul. A phan aeth Saul allan o’r ogof, aeth yntau allan, ac a lefodd ar ol Saul, gan ddangos iddo gẁr ei fantell — yn profi y modd yr oedd efe wedi ei arbed, pan y buasai mor hawdd iddo dori ei ben a thori cẁr ei fantell. Toddodd hyny galon Saul am yr ennyd, fel yr wylodd ac y cyfaddefodd ei fai; ac addawai na cheisiai ddrygu y diniwed mwy. Ond daeth y drwg ysbryd yn ol arno yn fuan, a chawn ef drachefn yn erlid Dafydd mor ymroddgar ag erioed. Bu amgylchiad arall cyffelyb wedi hyny, pan gafodd Dafydd Saul a’i holl weision yn cysgu yn y wersyllfa, ac y cymmerodd efe ymaith waewffon y brenin, a’r llestr dwfr oedd wrth ei obenydd ef, & c., ac yr aeth encyd o ffordd, ac y galwodd arno, fel y tro o’r blaen: 1 Sam xxvi. Mynai Abisai genad Dafydd i’w daraw ef i’r llawr; ond efe a wrthododd, gan ddywedyd, “Na ddyfetha ef,” fel y cyfieithir teitl y salm hon: a dichon mai yr achlysur hwnw a barodd i Dafydd, pan yn trefnu ei salmau at ganiadaeth y cyssegr osod Al‐taschith (‘Na ddyfetha ef’) yn deitl iddi. Profodd y Salmydd yn y ddau amgylchiad hyny wirionedd ei benderfyniad, a ddadganasai lawer gwaith yn ei salmau perthynol i’r tymmor hwnw, i ymddiried yn unig am ei ddiogelwch, ac i adael ei achos yn hollol yn llaw Duw, yn gystal a gwirionedd ei broffes a’i lwyr ddiniweidrwydd yn wyneb y cyhuddiad a ddygai Saul a’i weision yn ei erbyn; sef, ei fod yn cynllunio bradwriaeth yn erbyn gorsedd a bywyd y brenin. Appelia yn ddifrifol a thaer at Dduw ar ddechreu y salm am ei nawdd yn ei gyfyngder a’i drallod. Y mae efe megys yn ymwthio dan gysgod adenydd yr Hollalluog, i lechu nes yr “elai yr aflwydd heibio:” — yno teimla yn dawel a hyderus yn ei noddfa. Yna, wedi achwyn ar ei elynion maleisus a’i herlidient, tỳr allan mewn clodforedd melus a gorfoleddus hyd ddiwedd y salm. Y mae holl ofidiau blinion ac achwynion trymion plant Duw yn sicr o droi yn ganiadau mawl a gorfoledd yn y diwedd.

Free Reading Plans and Devotionals related to Salmau 57