YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 57

57
SALM LVII.
8.7.
I’r Pencerdd, Al‐taschith, Michtam Dafydd, pan ffodd rhag Saul i’r ogof.
1Trugarha, O Arglwydd! wrthyf,
Trugarhâ — can’s ynot ti,
Yn mhob adfyd a chyfyngder,
Y gobeithiodd f’ enaid i;
Ac yn nghysgod dy adenydd
Y gobeithiaf hyd nes ä
’R aflwydd yma etto heibio,
Ac y gwawria hyfryd ha’.
2Galw wnaf ar Dduw Goruchaf —
Duw yw ef a gwblha
Ei addewid i mi; 3enfyn
Nerth o’r nef, a’m gwared wna;
Rhag gwaradwydd dyn a’m llyngcai,
Denfyn ei drugaredd gref,
A’i wirionedd, i fy achub,
Pan ddyrchafwyf ato ’m llef.
4F’ enaid sydd yn nghanol llewod,
Yn mysg dynion poethion byd,
Meibion dynion, rhai mae ’u dannedd
Yn bicellau a saethau ’i gyd;
A’u tafodau blinion ydynt
Megys cleddyf llym ei fin:
Saethu, brathu, gwanu ’r cyfiawn
Yw eu holl amcanion blin.
Rhan II.
8.7.
5Duw ymddyrcha uwch y nefoedd,
Bydded dy ogoniant mawr
Yn tywynu mewn disgleirdeb
Dwyfol ar y ddaear lawr.
6Darparasant rwyd i ddala
’M traed — fe grymwyd f’ enaid gwan;
O fy mlaen cloddiasant bydew,
Syrthiant iddo yn y man.
7Parod yw fy nghalon, Arglwydd!
Parod yw fy nghalon i,
’N awr i ganu ac i ganmawl
D’ enw gogoneddus di.
8Deffro, fy ngogoniant, deffro;
Nabl a thelyn, seiniwch gân;
Minnau a ddeffro’f yn foreu
I glodfori ’m Harglwydd glân.
9Molaf di yn mysg y bobloedd,
Arglwydd, tra y byddwyf byw,
A dadganaf i’r cenhedloedd
Glodydd enw mawr fy Nuw.
10Canys mawr yw dy drugaredd,
Yn cyrhaeddyd hyd y nen,
A’th wirionedd hyd gymmylau
’R awyr eang uwch ein pen.
11Duw, ymddyrcha uwch y nefoedd,
Bydded dy ogoniant mawr
Yn tywynu mewn disgleirdeb
Drwy ororau daear laŵr.
Nodiadau.
Cyttuna beirniaid yn gyffredin i gyfieithu teitl y salm hon, a’r ddwy ganlynol, sef Al‐taschith, i ‘Na ddistrywia ef.’ Yr ogof yr oedd Dafydd ynddi y tro hwn oedd yr un yn anialwch Engedi (1 Sam xxiv. 14); ac nid ogof Adulam. Tra yr oedd efe a’i wŷr yn ymguddio yno, daeth Saul, a thair mil o wŷr gydag ef, i geisio Dafydd. Aeth Saul i mewn i gẁr arall o’r ogof i orphwys, a chysgodd yno — efe a’i holl wŷr. Annogai gwŷr Dafydd ef yn daer i achub y cyfleusdra, a’i ladd ef; ond dychrynai ef rhag y fath weithred:— ond torodd gẁr mantell Saul. A phan aeth Saul allan o’r ogof, aeth yntau allan, ac a lefodd ar ol Saul, gan ddangos iddo gẁr ei fantell — yn profi y modd yr oedd efe wedi ei arbed, pan y buasai mor hawdd iddo dori ei ben a thori cẁr ei fantell. Toddodd hyny galon Saul am yr ennyd, fel yr wylodd ac y cyfaddefodd ei fai; ac addawai na cheisiai ddrygu y diniwed mwy. Ond daeth y drwg ysbryd yn ol arno yn fuan, a chawn ef drachefn yn erlid Dafydd mor ymroddgar ag erioed. Bu amgylchiad arall cyffelyb wedi hyny, pan gafodd Dafydd Saul a’i holl weision yn cysgu yn y wersyllfa, ac y cymmerodd efe ymaith waewffon y brenin, a’r llestr dwfr oedd wrth ei obenydd ef, & c., ac yr aeth encyd o ffordd, ac y galwodd arno, fel y tro o’r blaen: 1 Sam xxvi. Mynai Abisai genad Dafydd i’w daraw ef i’r llawr; ond efe a wrthododd, gan ddywedyd, “Na ddyfetha ef,” fel y cyfieithir teitl y salm hon: a dichon mai yr achlysur hwnw a barodd i Dafydd, pan yn trefnu ei salmau at ganiadaeth y cyssegr osod Al‐taschith (‘Na ddyfetha ef’) yn deitl iddi.
Profodd y Salmydd yn y ddau amgylchiad hyny wirionedd ei benderfyniad, a ddadganasai lawer gwaith yn ei salmau perthynol i’r tymmor hwnw, i ymddiried yn unig am ei ddiogelwch, ac i adael ei achos yn hollol yn llaw Duw, yn gystal a gwirionedd ei broffes a’i lwyr ddiniweidrwydd yn wyneb y cyhuddiad a ddygai Saul a’i weision yn ei erbyn; sef, ei fod yn cynllunio bradwriaeth yn erbyn gorsedd a bywyd y brenin. Appelia yn ddifrifol a thaer at Dduw ar ddechreu y salm am ei nawdd yn ei gyfyngder a’i drallod. Y mae efe megys yn ymwthio dan gysgod adenydd yr Hollalluog, i lechu nes yr “elai yr aflwydd heibio:” — yno teimla yn dawel a hyderus yn ei noddfa. Yna, wedi achwyn ar ei elynion maleisus a’i herlidient, tỳr allan mewn clodforedd melus a gorfoleddus hyd ddiwedd y salm. Y mae holl ofidiau blinion ac achwynion trymion plant Duw yn sicr o droi yn ganiadau mawl a gorfoledd yn y diwedd.

Currently Selected:

Salmau 57: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salmau 57