YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 56

56
SALM LVI.
8au.
I’r Pencerdd ar Ionath‐Elem‐Rechocim, Michtam Dafydd, pan ddaliodd y Philistiaid ef yn Gath.
1Trugarha, O Arglwydd! canys
Dyn a’m llyngcai yn faleisus;
Beunydd, gan ryfela i’m herbyn,
Y’m gorthryma ’r llidiog elyn.
2Beunydd llyngcai fy ngelynion
Fi, yn eu cynddaredd greulon;
Llawer sy ’n ymosod arnaf,
O fy Arglwydd Dduw Goruchaf!
3Yn y dydd daw dychryn arnaf
Ynot ti yr ymddiriedaf;
4Am ei Air, fy Nuw glodforaf,
Yn ei enw byth gobeithiaf.
Ac am hyny ni wnaf ofni,
Gwneled cnawd ei waethaf i mi;
5Camgymmerant hwy fy ngeiriau —
Ar y drwg mae ’u holl fwriadau.
6Hwy ymgasglant ac a lechant,
Ar fy nghamrau dyfal graffant,
Pan ddisgwyliant am fy enaid,
I wneyd iddo farwol niwaid.
7A ddiangant drwy anwiredd?
Disgyn hwynt yn dy ddigllonedd;
Dwg, O Dduw! y bobloedd yma
I lwch angeu am eu trahâ!
Rhan II.
8au.
8Rhifi ’m symmudiadau dirgel,
Dod fy nagrau yn dy gostrel;
Onid ydynt ’sgrifenedig,
Oll o fewn dy lyfr seliedig.
9Dydd y llefwyf, Arglwydd grasol!
Troi ’m gelynion yn eu gwrthol;
Hyn a wn yn hysbys ddigon,
Am fod Duw o’m plaid yn ffyddlon.
10-11Yn fy Nuw ei Air moliannaf,
Ynddo ef a’i Air hyderaf;
Ac am hyny nid wy’n ofni
Dim a ddichon dyn wneyd i mi.
12Gwnaethum addunedau i ti,
O fy Nuw! — a gwnaf eu talu;
Rhoddaf i ti foliant seinber
Am dy drugareddau lawer.
13Cedwaist f’ enaid i rhag angau —
Oni chedwi ’m traed rhag maglau?
Fel y rhodiwyf yn ngoleuni
Y rhai byw i’th ogoneddu.
Nodiadau.
Rhoddodd teitl y salm hon etto, Ionath‐Elem‐Rechocim, lawer o drafferth i lawer o esbonwyr i geisio ei wir feddwl a’i ystyr. ‘I’r bobl bell oddi wrth y cyssegr’ ydyw yn y Deg a Thrigain; a’r Vulgate yn gyffelyb. Ereill a’i cyfieithant, ‘Y golomen fud, mewn lle pell;’ ereill, ‘Y golomen ddistaw mewn coedydd anghyfannedd,’ i’r hon y cyffelyba y Salmydd ei hun. Ereill etto a dybiant mai alaw, ar yr enw ‘Y golomen fud bellenig,’ ar yr hon y trefnir i’r salm gael ei dadgan, sydd i’w olygu. Pwy sydd i benderfynu y pwynt, pan y mae doctoriaid yn anghyttuno? Fodd bynag, mewn lle pellenig, allan o’i wlad ei hun, ac yn ngwlad ei elynion a gelynion Israel, yr oedd Dafydd ar y pryd. Nid ar Achis, a’r Philistiaid, yn gymmaint y mae efe yn achwyn ac yn griddfan megys colomen yn y salm; ond ar Saul a’i wŷr, y rhai a’i gyrasant yn ffoadur am ei einioes i blith y Philistiaid gelynol — gan obeithio y cawsai fwy o ddynoliaeth ynddynt hwy nag oedd yn ei erlidwyr diachos gartref. Cyfeiria mewn amryw o’r salmau, fel y cawsom achlysuron i sylwi, at yr amgylchiad tywyll hwnw yn ei hanes. Cofio gair Duw oedd ei unig gysur yn nydd ei berygl a’i gyfyngder. Golygai yn benaf, fe ddichon, y gair Duw a lefarasai Samuel wrtho, ac am dano, pan yr eneiniwyd ef yn frenin i deyrnasu ar Israel. Oddi ar y gair hwnw gobeithiai a hyderai na adawai yr Arglwydd ef i syrthio yn nwylaw Saul, nac yn nwylaw y Philistiaid, y pryd hwnw, nac yn llaw un gelyn arall. Credai nad possibl myned gair Duw yn ddirym. Am hyny, dywed ddwywaith, nad ofnai beth a wnai cnawd iddo.
“Ti a gyfrifaist fy symmudiadau,” medd efe, gyda golwg ar ei grwydriadau o fan i fan i lechu rhag Saul; megys ei ffoedigaeth at Samuel i Naioth (1 Sam xix. 18); yna at Ionathan (1 Sam xx. 1). Wedi hyny i Nob, dinas yr offeiriaid (1 Sam xxi. 1), lle y gwelodd Döeg yr Edomiad ef; drachefn i Gath (adn. 10); oddi yno i ogof Adulam (pen. xxii. 1); ac o ogof Adulam i wlad Moab (adn. 3); oddi yno etto i goed Hareth (pen. xxii. 5) — lle, fel y tybia rhai, y cyfansoddodd y salm hon, mewn adolygiad ar amgylchiadau blinderus ei fywyd crwydrol, ac yn neillduol yr amgylchiad yn Gath. Dywed fod ei erlidwyr a’i elynion yn manwl wylio ei symmudiadau, i ddisgwyl am ryw fantais i ruthro arno a’i ddyfetha. Yn wyneb hyn, ymgysura yn y ffaith fod llygad ei Dduw hefyd arno, i’w wylio a’i gyfarwyddo, ac i oruwchreoli holl amcanion ei elynion yn ei erbyn; a bod ei ddagrau oll yn ei gostrel ef, ac y cai yntau yn y diwedd ei foliannu, wedi ei ddwyn yn ddiangol allan o’i holl beryglon. Cysur cryf i’r enaid duwiol yn ei holl drallodau ydyw cofio fod golwg Duw arno yn ei holl gyfyngderau, ac y gwaredid ef yn y diwedd allan o honynt oll. Y mae geiriau Dafydd yn ei drallodion ef wedi bod yn fêl ac yn falm i laweroedd o gredinwyr yn eu profedigaethau.

Currently Selected:

Salmau 56: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salmau 56