YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 55

55
SALM LV.
7.4.
I’r Pencerdd ar Neginoth, Maschil, Salm Dafydd.
1Gwrandaw ’m gweddi, O fy Nuw!
Gelwais arnad;
Nac ymguddia, brysia, clyw
Fy neisyfiad;
2Gwrandaw arnaf, erglyw fi,
’Rwyf yn cwynfan
Yn fy ngweddi ’n drwm fy nghri,
Ac yn tuchan.
3Gan y gelyn mawr ei lid
A’m dychryna,
A’r annuwiol ddyn o hyd
A’m gorthryma;
Bwrw celwydd arnaf wnant,
Yn bentyrau,
Ac yn llidiog y’m casânt
O’u calonau.
4Mae fy nghalon dan fy mron
Yn ofidus,
Ofnau angeu a wnaeth hon
Yn drallodus:
5Ofn ac arswyd mawr ynghyd
Syrthiodd arnaf;
Dychryn a’m gorchuddia o hyd,
Ddyn truanaf.
Rhan II.
7.4.
6Dywedais, O! na byddai im’
Bâr o adenydd!
Hedwn fel colomen chwim
I bell fröydd;
7I’r anialwch rhag y llid
Y diangwn,
Yno ’mhell, o sŵn y byd,
Y gorphwyswn.
8Brysio felly i lechu wnawn
Rhag y gwyntoedd —
Rhag y gwynt ystormus iawn,
A’r drycinoedd:
9O! dinystria, Arglwydd da,
’R tafod adgas:
Gwelais gynnen a thrahâ
Yn y ddinas.
10-11Dydd a nos amgylchant hi
Ar ei muriau;
Anwireddau sy’n ddiri,
’N ei thrigfanau;
Trais a blinder fyth a drig
Yn ei chanol,
Twyll a phob dichellion dig
Yn mhob hëol.
Rhan III.
7.4.
12Canys nid y gelyn traws
Godai i’m herbyn,
Dioddefaswn ef yn haws:
Nid fy nghasddyn
A’m difenwodd — rhagddo fe
Ymguddiaswn,
Fel nad all’sai wybod p’le
Y llechaswn.
13Ond tydi — tydi o ddyn —
Fy hyfforddwr,
A’m cydnabod i fy hun,
Droes yn fradwr!
14’R hwn bu ’n felus genyf gyd
Gyfrinachu;
Rhodiem i dŷ Dduw ynghyd,
I’w foliannu.
15Rhuthred angeu arnynt oll,
Pan na thybiont,
Ac yn fyw i uffern goll
Y disgynont;
Can’s drygioni anfad sy
’N eu trigfanau;
Llawn o frad a dichell ddu
Yw eu c’lonau.
16Ond myfi yn f’ adfyd prudd
Ar Dduw galwaf,
17Hwyr, a boreu, a hanner dydd,
Y gweddïaf;
Byddaf daer — efe a glyw
Fy lleferydd,
Molaf finnau ’i enw gwiw
Yn dragywydd.
Rhan IV.
7.4.
18Duw a wared f’ enaid i —
Hedd a ddilyn;
Y rhyfeloedd creulawn sy’
Yn fy erbyn;
Rhai o’m perthynasau droes
Yn fradychus —
Hyny barai i mi loes
Fwy gofidus.
19Duw a glyw — ’r hwn oedd erioed —
Efe a’u barna;
Ac i lawr o dan fy nhroed
Efe a’u plyga;
Am eu bod yn hir barhau
Heb gyfnewid,
Hwy nid ofnant Dduw ’n ddiau
Nes daw gofid.
20Troi ei law a wnaeth, a’i rym —
Lidiog elyn —
I daraw rhai na wnaethant ddim
Yn ei erbyn;
Tori ei gyfammod wnaeth
Y dyhirddyn;
21Llyfnach oedd ei enau ffraeth
Nag ymenyn.
Rhyfel chwerw oedd o hyd
’N ei fwriadau;
Tyner fel yr olew drud
Oedd ei eiriau;
Er eu bod yn finiog iawn,
Fel cleddyfau,
Gan mor fedrus oedd ei ddawn
Ar gelwyddau.
22Bwrw di ar Dduw dy faich —
Ef a’th gynnal;
Deil e’r cyfiawn byth â’i fraich
Yn ddiofal:
23Ond i ddistryw ef a ddwg
Ddynion gwaedlyd;
Y twyllodrus dan ei ŵg
Syrth — ni chyfyd.
Nodiadau.
Eglur yw mai yn ei ffoedigaeth rhag Absalom ei fab y cyfansoddodd Dafydd y salm gwynfanus hon. Cwyna yn neillduol ynddi o herwydd ffalsedd a bradwriaeth Ahitophel, yr hwn a fuasai yn un o’i gyfeillion penaf, ac yn brif gynghorwr iddo. Tra yr oedd efe ar ei ffoedigaeth, yn myned i fyny ar fryn yr Olewydd dan wylo, wedi gorchuddio ei ben, ac yn droednoeth, a’r holl bobl oedd gydag ef yr un modd, mynegwyd iddo fod Ahitophel yn mysg y cydfradwyr gydag Absalom; yr hyn, fe ymddengys, a’i trallododd yn fawr, canys gwyddai yn dda am graffder a challineb Ahitophel fel cynghorwr. Torai allan, gan ddywedyd, “O Arglwydd! tro, attolwg, gynghor Ahitophel yn ffolineb.” Wedi iddo fyned dros yr Iorddonen i Mahanaim, y mae yn debygol, y cyfansoddodd efe y salm hon ar yr achlysur galarus.
Yn lle yr ymadrodd “canys yr oedd llawer gyda mi,” yn adn. 18, darllena Boothroyd, ‘Gwared fy enaid mewn heddwch, rhag fy mherthynasau; o blegid y maent hwy yn mysg y rhai sydd yn ymladd i’m herbyn’ — gan olygu Absalom ei fab, ac Amaza ei gâr, ac amryw ereill, y mae yn debygol, oeddynt yn gyfranogion o’r fradwriaeth; — yr hyn, ynghyd â bradwriaeth ei brif gynghorwr Ahitophel, a wnai gwpan y gofid hwnw yn chwerw iawn iddo.

Currently Selected:

Salmau 55: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salmau 55