Ti’n gwrando ar lais y rhai sy’n cael eu gorthrymu
yn crefu arnat, O ARGLWYDD.
Byddan nhw’n teimlo’n saff
am dy fod ti’n gwrando arnyn nhw.
Unwaith eto byddi’n rhoi cyfiawnder
i’r amddifad a’r rhai sy’n cael eu sathru;
byddi’n stopio dynion meidrol rhag eu gormesu.