Salmau 109
109
SALM 109
Duw’n sefyll o blaid y gorthrymedig
Llantrisant 88.88
1-3Paid â thewi, Dduw fy moliant.
Pobl ddrwg a ddywedasant
Eu celwyddau cas amdanaf,
A, heb sail, ymosod arnaf.
4-5Cwynant am fy ngharedigrwydd;
Rwy’n gweddïo drostynt, Arglwydd.
Drwg am dda i mi a dalant,
Cas am gariad, a dywedant:
6-7“Rhowch ar ei ddeheulaw elyn;
Euog fydd, a’i weddi’n wrthun.
Boed ei ddyddiau’n brin, a rhodder
Arall yn ei swydd ar fyrder.
8-11Boed ei blant ef yn amddifaid,
Yn gardotwyr ac yn grwydriaid.
Aed ei eiddo i’r beilïaid,
A’i enillion i estroniaid.
12-13Na wnaed neb ag ef drugaredd,
Na gwneud ffafr â’i blant, na’u coledd.
Torrer ymaith ei hiliogaeth,
Dileu’i enw o fewn cenhedlaeth.
14-15Na ddilëer holl ddrygioni
Ei gyn-dadau na’i rieni;
Cofied Duw mor anwir oeddynt,
A dileu pob cof amdanynt.
16-17aNi fu hwn erioed yn ffyddlon,
Ond melltithiodd y rhai tlodion
A’r drylliedig hyd at angau.
Deued melltith arno yntau.
17b-19Gan na hoffai ef fendithio,
Pell fo bendith oddi wrtho.
Gwisgodd felltith megis dillad;
Bydded hon amdano’n wastad.”
20-21Hyn a fo dy dâl, O Arglwydd,
I’m cyhuddwyr; tyrd yn ebrwydd,
Er mwyn d’enw, i weithredu
Drosof fi, ac i’m gwaredu.
22-24Tlawd a thruan wyf; fe dderfydd
F’egni megis cysgod hwyrddydd.
Mae fy ngliniau’n wan gan ympryd;
Tenau ydwyf a newynllyd.
25-26Rwy’n gyff gwawd i bawb; pan welant
Fi, eu pennau a ysgydwant.
Arglwydd, cymorth fi mewn llesgedd,
Achub fi yn dy drugaredd.
27-29Dangos iddynt dy lareidd-dra;
Pan felltithiant hwy, bendithia.
Deued mawr gywilydd arnynt,
Boed eu gwarth fel gwisg amdanynt.
30-31Yng ngwydd tyrfa fawr moliannaf
Fi yr Arglwydd; fe’i clodforaf.
Ar ddeheulaw’r tlawd, digysur,
Saif i’w achub rhag cyhuddwyr.
Currently Selected:
Salmau 109: SCN
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Gwynn ap Gwilym 2008