Salmau 112
112
SALM 112
Gwobr y cyfiawn
Quem Pastores Laudavere 88.88
1-2aMolwch Dduw; fe ddaw bodlonrwydd
I bob un sy’n ofni’r Arglwydd
Ac yn hoffi ei orchmynion;
Cedyrn fydd ei ddisgynyddion.
2b-3Fe fendithir teulu’r uniawn.
Bydd ei gartref ef yn orlawn
O oludoedd, a’i gyfiawnder
Yn parhau tra pery amser.
4-5aMewn tywyllwch caiff oleuni;
Llawn yw’r cyfiawn o dosturi.
Da yw trugarhau yn raslon
A rhoi benthyg i’r rhai tlodion.
5b-6Da yw trefnu pob rhyw fater
Mewn gonestrwydd a chyfiawnder.
Yr un cyfiawn, nis symudir,
Ac am byth ei waith a gofir.
7-8Nid yw’n ofni drwg newyddion,
Ond diysgog yw ei galon,
Ac nid ofna nes gweld diwedd
Ei elynion a’u hanwiredd.
9Rhoes i’r tlawd haelioni lawer;
Byth fe bery ei gyfiawnder;
Ac fe gaiff gan Dduw o’r diwedd
Ei ddyrchafu mewn anrhydedd.
10Mae’r drygionus yn cynhyrfu
O weld hyn, gan ysgyrnygu;
Ond diflannu yn adfydus
A wna gobaith y drygionus.
Currently Selected:
Salmau 112: SCN
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Gwynn ap Gwilym 2008