YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 16:4-11

Salmau 16:4-11 SCN

Ni roddaf waed-offrwm i’r rheini, Na’u galw am help pan wyf wan. Ti, Arglwydd, yw ’nghyfran a’m cwpan; Ti sy’n diogelu fy rhan. Fe syrthiodd i mi y llinynnau Mewn mannau dymunol drwy f’oes. Mae im etifeddiaeth ragorol; Bendithiaf yr Arglwydd a’i rhoes. Yr Arglwydd yw nerth fy llaw dde. Fe’i dodais o’m blaen i yn wastad: Am hyn, ni’m symudir o’m lle. Rwy’n llawen. Caf fyw yn ddiogel, Ac ni ddaw un distryw i mi. Dangosi imi lwybr pob gwynfyd. Mae mwyniant am byth ynot ti.