YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 16

16
SALM 16
Yr Arglwydd yw fy rhan
Crug-y-bar 98.98.D
1-4aO Dduw, cadw fi, cans llochesaf
Yn dawel am byth ynot ti.
Ti ydyw fy Arglwydd, a hebot
Nid oes dim daioni i mi.
Boed melltith ar bawb sy’n gwirioni
Ar dduwiau paganaidd y wlad;
Dim ond amlhau ei ofidiau
Y mae’r un a’u blysia mewn brad.
4b-7aNi roddaf waed-offrwm i’r rheini,
Na’u galw am help pan wyf wan.
Ti, Arglwydd, yw ’nghyfran a’m cwpan;
Ti sy’n diogelu fy rhan.
Fe syrthiodd i mi y llinynnau
Mewn mannau dymunol drwy f’oes.
Mae im etifeddiaeth ragorol;
Bendithiaf yr Arglwydd a’i rhoes.
7b-11Y mae fy meddyliau’n fy nysgu.
Yr Arglwydd yw nerth fy llaw dde.
Fe’i dodais o’m blaen i yn wastad:
Am hyn, ni’m symudir o’m lle.
Rwy’n llawen. Caf fyw yn ddiogel,
Ac ni ddaw un distryw i mi.
Dangosi imi lwybr pob gwynfyd.
Mae mwyniant am byth ynot ti.

Currently Selected:

Salmau 16: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in