YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 19

19
SALM 19
Gogoniant Duw
Navarre 10.10.10.10
1-2Mae’r nef yn adrodd mawr ogoniant Duw,
A thraetha’r wybren waith ei ddwylo byw.
Byrlymu siarad y mae dydd wrth ddydd
A nos wrth nos am ei gyfeillach gudd.
3-4aMud yw eu llais, ac nid oes ganddynt iaith
Na geiriau. Eto, drwy’r holl ddaear faith
Fe â eu sain, a chlyw eithafoedd byd
Sŵn eu lleferydd am ein Duw o hyd.
4b-6Daw’r haul o’i babell megis priodfab llon
Neu fabolgampwr cryf yn curo’i fron.
Amgylchu’r wybren y mae’i daith a’i des,
Ac nid oes dim yn cuddio rhag ei wres.
7-8Mae cyfraith berffaith Duw’n dwyn egni’n ôl;
Tystiolaeth sicr Duw’n gwneud doeth o’r ffôl.
Mae deddfau cywir Duw yn llawenhau;
Gorchymyn Duw’n goleuo llygaid cau.
9-10Ofn Duw sydd lân, a phery byth yn ir.
Mae barnau Duw yn gyfiawn ac yn wir.
Hyfrytach ŷnt nag aur neu drysor cêl,
Melysach na diferion diliau mêl.
11-13aRhybuddiant ni; o’u cadw gwobr a fydd.
Glanha fi oddi wrth fy meiau cudd.
Rhag pechod hyf, a yrr dy was ar ŵyr,
O cadw fi, rhag iddo ’nhrechu’n llwyr.
13b-14Caf yna fod heb fai na phechod mawr.
Boed geiriau ’ngenau wrth dy fodd yn awr
A’m holl feddyliau’n gymeradwy i ti,
O Arglwydd Dduw, fy nghraig a’m prynwr i.

Currently Selected:

Salmau 19: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in