YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 20

20
SALM 20
Gweddi dros y brenin
Cyfamod (Hen Ddarbi) 98.98.D
1-4O bydded i’r Arglwydd dy ateb
Yn nydd dy gyfyngder i gyd,
I enw Duw Jacob d’amddiffyn
O’i gysegr yn Seion o hyd.
Boed iddo ef gofio d’offrymau
A ffafrio aberthau dy glod.
Cyflawned ddymuniad dy galon,
A dwyn dy gynlluniau i fod.
5-6A bydded i ni orfoleddu
Yn dy fuddugoliaeth a’th fri.
Yn enw ein Duw codwn faner,
Rhoed yntau a fynni i ti.
Yn awr gwn fod Duw yn gwaredu’i
Eneiniog, a’i ateb o’r nef.
Y mae’n ei waredu yn nerthol,
Cans mae ei ddeheulaw’n un gref.
7-9Ymffrostia rhyw rai mewn cerbydau,
Ac eraill mewn meirch chwim eu tuth,
Ond ninnau, ymffrostiwn yn enw
Yr Arglwydd ein Duw ni hyd byth.
Maent hwy oll yn crynu ac yn syrthio,
A ninnau yn sefyll mewn bri.
O Arglwydd da, gwared y brenin,
Ac ateb, pan alwn, ein cri,

Currently Selected:

Salmau 20: SCN

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in